O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion hawliau penodol sy'n ymwneud a'r ffordd y mae'r Brifysgol yn prosesu eu data personol.  Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn y Canllaw ar Hawliau Unigolion. Isod, mae trosolwg byr o hawliau unigolion.

Hawl i wybodaeth
Yn unol ag egwyddor prosesu teg a chyfreithlon, mae gan unigolion yr hawl i gael eu hysbysu am gasglu a defnyddio eu data personol.  Darperir hysbysiadau preifatrwydd ar yr adeg o gasglu data personol a gellir dod o hyd i nifer o hysbysiadau unigryw ar ein tudalennau gwe.   

Hawl i gael mynediad i ddata
Mae gan unigolion hawl i weld y data personol a gedwir amdanynt gan y Brifysgol.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth yn ein Canllaw Cais Gwrthrych am Wybodaeth.                                                                                                                  

Hawl i unioni
Mae gan unigolion yr hawl i ofyn i'r Brifysgol unioni unrhyw wallau mewn data personol a gedwir amdanynt.  Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein Canllaw ar Hawliau Unigolion.                

Hawl i ddileu data
Hefyd yn cael ei adnabod fel yr hawl i gael eich anghofio, sy’n golygu bod gan unigolion yr hawl i gael data personol wedi’i dynnu neu ei ddileu os nad oes reswm cymhellol i'w brosesu.  Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein Canllaw ar Hawliau Unigolion

Hawl i gyfyngu ar brosesu
Mewn rhai amgylchiadau, gall unigolion ofyn i'r Brifysgol gyfyngu neu atal sut maen nhw’n defnyddio ei gwybodaeth bersonol. Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein Canllaw ar Hawliau Unigolion.                                                                  

Hawl i gludo data
Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am eu data mewn fformat penodol a fydd yn eu galluogi i drosglwyddo'r wybodaeth o un rheolydd data i un arall. Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein Canllaw ar Hawliau Unigolion.                                                                 

Hawl i wrthwynebu
Mae gan unigolion yr hawl i wrthwynebu prosesu eu data personol mewn nifer o sefyllfaoedd. Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein Canllaw ar Hawliau Unigolion.