Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru

 

Hysbysiad Preifatrwydd HEAT

 

Beth yw pwrpas yr hysbysiad hwn?

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Cenedlaethol Ymestyn yn Ehangach yn eich helpu i ddeall pam mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu a chofnodi eich data personol, sut rydym yn defnyddio eich data, ein rhwymedigaethau o dan y gyfraith a gwybodaeth am eich hawliau.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd HEAT hwn yn nodi’r hyn sy'n digwydd i'ch data personol pan gaiff ei gasglu gan Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru a'i roi yn y Traciwr Mynediad Addysg Uwch (HEAT).

Pan fyddwn yn cyfeirio at 'ddata personol', rydym yn golygu unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chofnodi amdanoch chi ac y gellir eich adnabod ohoni.

Pan fyddwn yn cyfeirio at 'brosesu' data personol, rydym yn golygu unrhyw beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r wybodaeth honno, gan gynnwys ei chasglu, defnyddio, storio, dileu neu gadw.

Beth yw HEAT?

System sy'n cael ei chyflenwi, ei chynnal a'i gweithredu gan Brifysgol Caint yw HEAT, ac mae’n cael ei defnyddio gan sefydliadau Addysg Uwch i werthuso effeithiolrwydd eu gweithgareddau allgymorth ac ehangu cyfranogiad. Mae'r system yn cysylltu'n agos ag asiantaethau'r llywodraeth fel y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), yr Adran Addysg (DfE), yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (MEDR) i adnabod pa ddysgwyr o blith y rhai sy'n ymgysylltu â'r prifysgolion partner sydd wedi symud yn eu blaen i Addysg Uwch.

Gall HESA a HEAT brosesu eich data yn y ffyrdd a nodir yn eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain, sydd ar gael drwy’r dolenni canlynol:

Hysbysiad Preifatrwydd HEAT

Hysbysiad Preifatrwydd HESA

Gall  Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru dderbyn eich data naill ai'n uniongyrchol gennych chi, neu gan eich ysgol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hychwanegu at gronfa ddata Traciwr Mynediad Addysg Uwch (HEAT) y Bartneriaeth. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i weld a yw ein gweithgareddau yn cael effaith ar eich deilliannau addysgol diweddarach.

Y prifysgolion o fewn Partneriaeth De-ddwyrain Cymru yw "rheolwyr" eich data personol. Mae hyn yn golygu ein bod yn penderfynu sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu, a ni sy’n  gyfrifol am gadw'r wybodaeth yn ddiogel a sicrhau ei bod yn cael ei phrosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Wedi i’ch data personol gael ei fewnbynnu i HEAT, mae HEAT yn dod yn rheolwr hefyd. Mae HEAT yn defnyddio'r wybodaeth i ddarparu gwasanaeth targedu, monitro a gwerthuso cydweithredol i’r Bartneriaeth i gefnogi ei gwaith yn ymwneud â chyfle cyfartal.  Mae'r Bartneriaeth wedi arwyddo cytundeb rhannu data gyda HEAT, sy'n golygu bod gan y partïon gyfrifoldebau penodol. Pe bai’r cytundeb hwn yn cael ei derfynu, mae’n bosibl y byddai eich data personol yn cael ei gadw gan, neu ei drosglwyddo i, dderbynnydd arall a ganiateir neu unrhyw sefydliad sy'n gweithredu traciwr HEAT.

  1. Y mathau o wybodaeth a allai gael ei chadw amdanoch yn HEAT

Gallem gofnodi'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi yn HEAT:

  • enw;
  • dyddiad geni;
  • cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol;
  • rhyw;
  • hunaniaeth rhywedd;
  • ethnigrwydd;
  • crefydd;
  • anabledd;
  • rhif adnabod neu ddynodwr tebyg;
  • gofal awdurdodau lleol;
  • statws ceisiwr lloches/ffoadur;

Gofynnwn am rywfaint o'r wybodaeth hon at ddibenion monitro a gwerthuso grwpiau neu is-grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli a mynediad, llwyddiant a dilyniant Addysg Uwch.

Rydym yn cael y data hwn naill ai'n uniongyrchol gennych chi, eich rhiant neu warcheidwad, neu gan eich ysgol.

Efallai y byddwn hefyd yn ychwanegu gwybodaeth amdanoch i HEAT  y byddwn wedi ei chasglu gan drydydd partïon, gan gynnwys y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau (UCAS), yr Adran Addysg (DfE), yr Asiantaeth Gyllido Addysg a Sgiliau - GOV.UK(ESFA). Gall y wybodaeth hon gynnwys ystadegau am yr ardal ble rydych chi'n byw, faint o bobl o'ch ardal sy'n mynd yn eu blaen i Addysg Uwch er enghraifft. Bydd data o'r ffynonellau hyn hefyd yn ein galluogi i olrhain eich taith addysgol chi o'r ysgol i Addysg Uwch, i ba brifysgol yr ewch iddi yn y pendraw a pha fath o radd y byddwch yn ei hennill.

  1. Sut mae data yn HEAT yn cael ei ddefnyddio.

 Gellir defnyddio eich data personol at y dibenion canlynol:

  • monitro a gwerthuso effeithiolrwydd ein rhaglenni allgymorth ac ehangu cyfranogiad;
  • dangos effaith ein rhaglenni allgymorth ac ehangu cyfranogiad
  • cynhyrchu ystadegau, gan gynnwys nifer y ceisiadau i gymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfranogiad ynddyn nhw, a deilliannau’r cyfranogwyr hynny; a
  • thracio deilliannau’r dyfodol o ran cyfranogwyr digwyddiadau, gan gynnwys ceisiadau i Brifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch eraill.
  • deall taith y myfyriwr trwy addysg ac ymlaen i Addysg Uwch

Mae angen defnyddio'ch data at y dibenion hyn ar gyfer tasgau rydym yn eu cyflawni er budd y cyhoedd (cyfle neu driniaeth cyfartal a hyrwyddo mynediad i Addysg Uwch).



  1. Gyda phwy fydd eich data yn cael ei rannu?

Gall eich data personol gael ei rannu â'r trydydd partïon canlynol;

  • UCAS – Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau
  • Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (MEDR)
  • Prifysgolion sy’n aelodau o'r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach
  • Y Traciwr Mynediad i Addysg Uwch (HEAT)
  • Sefydliadau partner sy'n rhan o Wasanaeth Craidd HEAT (bydd aelodau'n gallu gweld a yw unigolion y maen nhw wedi casglu data amdanynt, wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd allgymorth mewn unrhyw sefydliad arall sy’n aelod o HEAT)

  1. Am ba hyd y bydd eich data yn cael ei storio?


Cedwir cofnodion electronig o fewn HEAT am gyfnod o hyd at 15 mlynedd ar ôl digwyddiad. Gweler adran 9 o'r Hysbysiad Preifatrwydd HEAT am ragor o wybodaeth.

  1. Eich hawliau

Mae gan unigolion hawl i gael mynediad at wybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eu data personol, i gywiro eu data personol, ac i ddileu, cyfyngu ar, a chludo gwybodaeth bersonol.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i'r Swyddog Diogelu Data – [email protected]

Yr hawl i gyflwyno cwyn i'r awdurdod goruchwylio

Byddem yn eich annog i ddilyn ein gweithdrefn gwyno fewnol yn llawn, drwy ein swyddog cyswllt cyntaf a swyddog diogelu data y Brifysgol, cyn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os nad yw'r mater yn cael ei ddatrys, a'r unigolyn yn parhau i fod yn anfodlon, yna mae ganddynt hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow

Cheshire SK9 5AF

www.ico.org.uk

  1. Newidiadau i'r hysbysiad hwn.

Gall y Brifysgol ddiweddaru'r hysbysiad hwn ar unrhyw adeg. Dylech wirio'r hysbysiad hwn yn rheolaidd i weld unrhyw newidiadau.  Pan fydd newid yn effeithio ar eich hawliau a'r hyn sydd er eich budd chi, byddwn yn sicrhau ein bod yn dod â hyn i'ch sylw ac yn esbonio'n glir beth mae’n  ei olygu i chi.

 Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 25/03/25