Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus.
Gellir rhannu’r wybodaeth a gwmpesir i’r chwe phrif faes a ganlyn:
- cyflwr elfennau o’r amgylchedd, megis aer, dŵr, pridd, tir, ffawna (gan gynnwys bodau dynol)
- allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff a sylweddau eraill o'r fath
- mesurau a gweithgareddau megis polisïau, cynlluniau, a chytundebau sy’n effeithio ar neu’n debygol o effeithio ar gyflwr elfennau o’r amgylchedd
- adroddiadau, cost a budd a dadansoddiadau economaidd
- cyflwr iechyd a diogelwch dynol, halogiad y gadwyn fwyd
- safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig (i’r graddau y gallent gael eu heffeithio gan gyflwr elfennau o’r amgylchedd)
Rhaid ystyried ceisiadau am wybodaeth, boed a ydynt yn cael eu derbyn ar lafar neu'n ysgrifenedig , yn unol â'r Rheoliadau a rhaid ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith i'w derbyn.
Mae sail gyfyngedig i atal gwybodaeth rhag cael ei datgelu. Gellir dal gwybodaeth benodol yn ôl os yw eithriad yn berthnasol ac ystyrir ei bod yn well er pennaf les y cyhoedd i atal y wybodaeth.
Dylid gwneud unrhyw geisiadau am Wybodaeth Amgylcheddol i:
Llywodraethu Gwybodaeth,
Prifysgol De Cymru,
Pontypridd
CF37 1DL
Neu drwy e-bost at: [email protected]
Beth i'w wneud os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich cais EIR?
Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaeth o safon uchel i bawb y mae'n ymwneud â nhw. Weithiau fodd bynnag, am unrhyw nifer o resymau, nid yw hyn yn digwydd, ac mae'r Brifysgol yn methu â chyflawni ei nodau penodedig. Os bydd hyn yn digwydd hoffai'r Brifysgol glywed gennych fel y gellir cymryd camau i unioni'r sefyllfa.
Ymdrin â Cheisiadau
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, gallwch ofyn i'r Brifysgol adolygu penderfyniadau sy'n ymwneud â chais am wybodaeth a wnaed o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gellir arfer yr hawliau hyn drwy ddwy broses adolygu. Yn gyntaf, trwy ddefnyddio'r drefn gwyno a nodir isod; yn ail trwy wneud cais yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sylwer: Cyn gwneud apêl i'r Comisiynydd Gwybodaeth dylid cwblhau trefn gwyno fewnol y Brifysgol.
Cam 1: Beth ddylwn i wneud os nad wyf yn hapus gyda'r gwasanaeth a gefais?
Os dymunwch wneud cwyn ysgrifennwch at y Brifysgol ar y cyfeiriad isod:
Mr.William Callaway,
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
e-bost: [email protected]
Os na ellir datrys eich problem ar unwaith bydd y swyddog cyfrifol yn rhoi gwybod i chi pa mor hir y gallai gymryd. Nod y Brifysgol yw ymateb i'ch cwyn a darparu ymateb llawn cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os yw'ch cwyn yn gymhleth gall gymryd mwy o amser i ymchwilio iddi. Os bydd hyn yn wir, byddwch yn cael esboniad ynghylch pam a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
Cam 2: Beth ddylwn i wneud os nad wyf yn hapus â chanlyniad Cam 1?
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb i gŵyn gallwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i’r mater yn ôl ei ddisgresiwn ei hun:
Cwynion EIR/RhG
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
e-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01625 545700
Rhif ffacs: 01625 545510