Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i baratoi at y dyfodol drwy archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael ar ôl y chweched dosbarth neu’r coleg. Mae'n ystyried y buddion a ddaw o addysg uwch, llwybrau amgen fel Prentisiaethau Gradd a Rhwydwaith75, ac yn darparu cyngor ymarferol ar wneud y dewisiadau cywir, datblygu sgiliau dysgu annibynnol, a gwneud yn fawr o gyfleoedd addysg ôl-16.
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i fuddion Rhwydwaith75 a Phrentisiaethau Gradd, ac yn eu helpu i ddeall y gwahaniaethau allweddol rhwng y llwybrau addysg uwch hyn sy’n seiliedig ar waith. Mae'n esbonio'r broses ymgeisio, beth i'w ddisgwyl yn ystod y cyfnod recriwtio a dethol, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar greu ceisiadau cryf, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a deall yr hyn mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn tywys dysgwyr drwy broses ymgeisio UCAS, o greu cyfrif i gwblhau pob rhan o'r cais. Gellir ei roi ar ffurf cyflwyniad neu, fel sy’n digwydd amlaf, fel sesiwn gam wrth gam ymarferol lle bydd dysgwyr yn cwblhau eu cais gan ddefnyddio cyfrifiaduron eu hysgol neu goleg, neu ar un o'n campysau prifysgol. Trwy helpu dysgwyr drwy'r broses, mae'r gweithdy hwn yn helpu i leihau'r pwysau ar athrawon a chynghorwyr tra'n sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gyflwyno cais o ansawdd.
Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn helpu dysgwyr i ysgrifennu datganiad personol UCAS cryf a diddorol. Bydd pob dysgwr yn derbyn ein Llyfryn Canllaw UCAS, y gallan nhw ei ddefnyddio drwy gydol y sesiwn i wneud nodiadau, cwblhau gweithgareddau, a’u helpu i fwrw ymlaen ag ysgrifennu eu cais. Mae'r gweithdy’n trafod fformat newydd UCAS ar gyfer datganiadau personol, am beth mae prifysgolion yn chwilio, a sut y gall dysgwyr gysylltu eu profiadau, eu diddordebau a'u sgiliau yn effeithiol i ddangos eu brwdfrydedd a'u haddasrwydd ar gyfer cwrs neu faes pwnc dewisol.