Mae'r gweithdy hwn yn arfogi dysgwyr gyda'r sgiliau a'r strategaethau sydd eu hangen i baratoi'n effeithiol ar gyfer arholiadau. Mae'n archwilio ystod o dechnegau adolygu, dulliau rheoli amser ymarferol a chynllunio astudio, a ffyrdd o greu arferion astudio iach. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o straen, yn deall ei effaith yn ystod cyfnodau arholiadau, ac yn darganfod strategaethau llesiant ymarferol i helpu i reoli pwysau, adeiladu gwytnwch, a pherfformio ar eu gorau.
Ein sesiynau
Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i ddeall y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg uwch a sut i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ariannu eu hastudiaethau. Mae'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid myfyrwyr, yn amlinellu opsiynau cymhwysedd a chyllid, ac yn archwilio cymorth ariannol ychwanegol, gan gynnwys ysgoloriaethau, bwrsariaethau a bwrsariaethau GIG lle bo'r rheiny’n berthnasol. Mewn partneriaeth â Blackbullion, mae'r gweithdy hefyd yn cyflwyno sgiliau cyllidebu ymarferol, gan helpu dysgwyr i fagu hyder wrth reoli eu harian a pharatoi'n ariannol ar gyfer bywyd prifysgol.
Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13 a myfyrwyr cyfatebol mewn colegau sydd eisoes wedi cyflwyno eu cais UCAS, mae'r cyflwyniad rhyngweithiol hwn yn helpu myfyrwyr i lywio'r cyfnod rhwng cael gwybod am benderfyniadau prifysgolion a dechrau addysg uwch. Mae'n ymdrin â phynciau allweddol fel cyllid myfyrwyr, llety, cyllidebu, a pharatoi ar gyfer bywyd myfyrwyr, gan roi'r hyder i ddysgwyr gymryd eu camau nesaf. Gellir teilwra'r sesiwn i roi cyngor ac arweiniad penodol am astudio yn PDC i ddysgwyr sydd eisoes â chynnig gan Brifysgol De Cymru.