Ffasiwn
Darganfyddwch ein digwyddiadau allgymorth ac ar y campws mewn Ffasiwn, sy'n cynnwys cyrsiau mewn Busnes a Marchnata Ffasiwn, Dylunio Ffasiwn a Hyrwyddo Ffasiwn. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cipolwg ymarferol i fyfyrwyr ar ochrau creadigol a masnachol y diwydiant ffasiwn, gan eu helpu i archwilio gwahanol lwybrau gyrfa a datblygu eu sgiliau.
Digwyddiadau ar y Campws
Archwiliwch ein digwyddiadau pwnc-benodol ar y campws ar gyfer Ffasiwn
Diwrnod Blasu: Expo Gyrfaoedd Creadigol
Rhowch gyfle i’ch myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfa creadigol yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n ansicr o’u camau nesaf neu sydd eisiau dysgu mwy am gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.
Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn ein campws Caerdydd creadigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio Dylunio a Hyrwyddo Ffasiwn.
Sgyrsiau a Gweithdai Allgymorth
Pan fyddwn ni'n meddwl am ‘ffasiwn’, yn aml rydyn ni'n meddwl am ddillad. Ond mae ffasiwn yn llawer mwy na hynny, mae'n cwmpasu dylunio, brandio a hunaniaeth weledol hefyd.
Dyma gyfle i greu brand ffasiwn o'r newydd; ysgrifennu eich briff, defnyddio ymchwil i ysbrydoli syniadau newydd, braslunio logos a chreu eich llwybr graffeg terfynol (bydd angen mynediad at gyfrifiadur a meddalwedd Adobe arnoch chi ar gyfer y gweithdy hwn).
Mae steilio’n ffurf ar gelf sy'n cyfuno dychymyg, ffasiwn a ffotograffiaeth i greu delweddau bythgofiadwy. Beth mae Steilydd Ffasiwn yn ei wneud?
- Cewch ddysgu am wahanol rolau Steilydd Ffasiwn
- Cewch adnabod tueddiadau a chysyniadoli syniadau
- Cewch greu byrddau gweledigaeth
- Cewch dynnu ffotograffau o'ch steil
Mae dillad a drysorir yn para. Ydych chi'n brin o le ar gyfer y dillad rydych chi’n eu prynu o hyd ac o hyd? Mae'r gweithdy hwn yn archwilio ein cariad at ffasiwn, a sut mae dillad yn llawer mwy na phethau i’w gwisgo. Dysgwch beth allwch chi ei wneud i ddatblygu eich synnwyr o steil yn hytrach na ffasiwn.
Sut i Gysylltu
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! I drefnu sesiwn neu drafod opsiynau wedi'u teilwra, cysylltwch â'n Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth a byddwn mewn cysylltiad.
Cysylltwch â'r tîm