Dylunio, Cyfryngau a Pherfformiad

Ffilm a'r Cyfryngau

Mae ein digwyddiadau allgymorth ac ar y campws mewn Ffilm a'r Cyfryngau yn cwmpasu ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol, Cynhyrchu Cyfryngau, y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth a Newyddiaduraeth Chwaraeon. Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol ac yn darganfod sut mae adrodd straeon creadigol a sgiliau technegol yn agor drysau i yrfaoedd amrywiol yn niwydiant y cyfryngau.

subjects-film-ma-film-2

Digwyddiadau ar y Campws

Archwiliwch ein digwyddiadau pwnc-benodol ar y campws ar gyfer Ffilm a'r Cyfryngau.
USW's Cardiff Campus from the outside

Diwrnod Blasu: Expo Gyrfaoedd Creadigol

Rhowch gyfle i’ch myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfa creadigol yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n ansicr o’u camau nesaf neu sydd eisiau dysgu mwy am gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.

subjects-film-ma-film-11

Mynd i'r afael â: Ffilm a’r Cyfryngau

Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn ein campws Caerdydd creadigol yn cynnig profiad trochi i fyfyrwyr o archwilio Ffilm ac Effeithiau Gweledol, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau.

A student using a film camera in front of a green screen.

Diwrnod Blasu Cyrsiau Creadigol Amlgyfrwng – Y Cwis

Ydych chi am i'ch myfyrwyr weld yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol?

Sgyrsiau a Gweithdai Allgymorth

Mae astudio dangosiadau sinema’n cynnig cipolwg diddorol ar y berthynas unigryw rhwng y ddelwedd symudol a'i chynulleidfaoedd. Bydd y sgwrs ddarluniadol hon, sy'n addas i fyfyrwyr sy'n astudio amrywiaeth eang o bynciau - gan gynnwys Ffilm a'r Cyfryngau, Saesneg, Hanes a Chymdeithaseg - yn ymchwilio i'r ffordd y mae ein profiad o'r sinema wedi datblygu o ddull 'gwylio drwy dwll clo' eithriadol o bersonol cinetosgop Edison i'r profiadau gwirioneddol gymdeithasol, ymdrochol rydyn ni'n eu hadnabod heddiw. Byddwn ni'n profi'r awditoriwm 1,000+ o seddi moethus neu'r 'palas breuddwydion', y 'sinema gyrru i mewn' a oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc America, y theatr ffilmiau bwrpasol a'r sinema aml-sgrîn (multi-plex). A byddwn ni'n ystyried ai'r sinema 'dros dro' gynyddol boblogaidd, sgriniadau safleoedd penodol a'r mudiad 'sinema agored' (sydd â'r nod o ymestyn dangosiadau i gymunedau sydd wedi'u heithrio) yw dyfodol dangosiadau sinema annibynnol yn y DU. 

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn ar dechnegau ffotograffiaeth ffonau clyfar ac yn dysgu sut i gymryd portreadau gwych gyda'u ffonau clyfar. Bydd myfyrwyr yn dysgu mwy hefyd am yr wybodaeth a'r sgiliau ym mhob maes adrodd straeon a sut i sicrhau gyrfa gan ddefnyddio eu sgiliau ffotonewyddiaduraeth.

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i weithio gyda syniadau ar gyfer straeon amlgyfrwng, o'r cysyniad, i'r sgript, i'r cynhyrchiad. Bydd astudiaethau achos ac enghreifftiau yn canolbwyntio ar ddrama neu fideo ffeithiol, gan gynnwys ffurf fer a chynnwys hyrwyddo. Mae hyn yn adlewyrchu ehangder y cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu cyfryngol sy’n ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith sy'n hyfyw yn fasnachol lle bynnag y bo galw am storïwyr gweledol.

Sut i Gysylltu

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! I drefnu sesiwn neu drafod opsiynau wedi'u teilwra, cysylltwch â'n Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth a byddwn mewn cysylltiad.

Cysylltwch â'r tîm