Ffotograffiaeth
Darganfyddwch ein digwyddiadau allgymorth ac ar y campws sy'n canolbwyntio ar Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol. Mae'r sesiynau hyn yn cynnig cyfleoedd ymarferol i fyfyrwyr ddatblygu eu llygad creadigol a'u sgiliau technegol wrth archwilio llwybrau gyrfa mewn adrodd straeon artistig a dogfennol.
Digwyddiadau ar y Campws
Archwiliwch ein digwyddiadau pwnc-benodol ar y campws ar gyfer Ffotograffiaeth.
Diwrnod Blasu: Expo Gyrfaoedd Creadigol
Rhowch gyfle i’ch myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfa creadigol yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n ansicr o’u camau nesaf neu sydd eisiau dysgu mwy am gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.
Mynd i'r afael â: Ffotograffiaeth
Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn ein campws Caerdydd creadigol yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr archwilio Ffotograffiaeth Ddogfennol a Ffotograffiaeth.
Sgyrsiau a Gweithdai Allgymorth
Bydd myfyrwyr yn cwrdd â'n staff academaidd a fydd yn cyflwyno portffolio ein cwrs, y cyfleoedd cyflogaeth mae'r diwydiant cyffrous hwn yn eu cynnig ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio ffotograffiaeth. Bydd myfyrwyr yn cael trosolwg o'n cyfleusterau arbenigol a gwaith myfyrwyr a graddedigion. Bydd hyn i gyd yn rhoi syniad o’r sgiliau y byddan nhw'n eu datblygu yn ystod eu hamser gyda ni a'r gyrfaoedd cyffrous y gallai hyn arwain atyn nhw.
Sut i Gysylltu
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! I drefnu sesiwn neu drafod opsiynau wedi'u teilwra, cysylltwch â'n Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth a byddwn mewn cysylltiad.
Cysylltwch â'r tîm