Astudiwch yn eich coleg lleol
Mae PDC yn gweithio mewn partneriaeth â cholegau ledled De Cymru, felly gallwch astudio cwrs prifysgol yn eich coleg lleol, ac yn fwy na hynny, efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth i gefnogi eich astudiaethau pan fyddwch yn ychwanegu at eich cwrs ar gampws PDC.
Bwrsariaeth dilyniant
Beth yw'r manteision?
Eich cefnogi chi ar eich taith AU
Wedi'i lleoli o fewn Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU, mae Alexandra wedi ymrwymo i gefnogi unigolion sy'n dewis astudio cyrsiau PDC yn ein colegau partner.
Mae Alexandra ar gael i'ch cefnogi chi trwy gydol eich cwrs AU yn ogystal â chynghori ar lwybrau dilyniant a hwyluso ymweliadau â champws PDC.
Darganfyddwch ein cyrsiau
I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd cyrsiau, ewch i wefan y coleg o’ch dewis.
Mwy am ein Colegau Partner
Bwrsariaeth Dilyniant
Mae'r fwrsariaeth hon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddarpariaeth Coleg Partner PDC sy'n ychwanegu at eu blynyddoedd olaf o astudio ar gampws PDC. Mae'r fwrsariaeth werth £1,000 i fyfyrwyr llawn amser a £500 i fyfyrwyr rhan-amser.