Ysgoloriaeth PDC £250 (26-27)

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £250 i fyfyrwyr addysg uwch Lefel 4-7 sy’n dymuno astudio o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais. Yna, cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 2 Tachwedd 2026.

Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].

*Noder, mae hwn yn ysgoloriaeth cystadleuol.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais. Yna, cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 2 Tachwedd 2026.

Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].

£1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) yw gwerth Prif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg, sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn o’r cwrs gradd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2026/27 nawr ar gau.

Bydd y ffenest ymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 yn agor ar 13 Awst 2026.

£500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) yw gwerth Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg.

Yn y flwyddyn academaidd 2025-26, mae'r ysgoloriaeth ar gael i bob myfyrwyr sy’n bwriadu astudio 40 credyd y flwyddyn o gyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.