Cyrsiau Blasu Chwaraeon
Ystyried troi eich angerdd am chwaraeon yn radd? O hyfforddi i iechyd, mae ein cyrsiau rhagflas yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau i ddangos i chi beth allech chi ei ddysgu os dewiswch PDC.
Gweld Cyrsiau Cyrsiau Blasu Byr/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sport/subject-sport-classroom-3095247836.jpg)
Gan ddefnyddio tiwtorialau fideo, enghreifftiau ymarferol a thasgau anffurfiol, bydd ein darlithwyr yn rhoi cyflwyniad i chi i chwaraeon gyda PDC. Gall darpar fyfyrwyr edrych ar hyfforddiant pêl-droed neu rygbi, anafiadau chwaraeon, y system cardio-anadlol a mwy gyda'n cyrsiau blasu byr ar-lein sy'n amrywio o 25 munud hyd at tua thair awr.
Profwch yr hyn sydd gan PDC i'w gynnig
Mae ein cyrsiau blasu chwaraeon yn ffordd wych o brofi’r hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i’w gynnig tra’n cael syniad ai dyma’r lle iawn i chi. Angen seibiant ar ôl y gic gyntaf? Gellir atal, ailddechrau ac ailchwarae ein cyrsiau unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau.
Dod o hyd i gwrs blasu byr