Cyrsiau Blasu Byr

Cyrsiau Blasu Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Meddwl am yrfa mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol? Dysgwch fwy am y maes a’r mathau o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen, trwy gyrsiau blasu Gwaith Ieuenctid a Chymunedol PDC.

Gweld y Cwrs Cyrsiau Blasu Byr
Two students stood next to each other smiling into camera. They are on placement.

Mae'r cyrsiau blasu yn ffordd wych o brofi'r hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i'w gynnig tra'n cael syniad ai dyma'r lle iawn i chi. Mae darlithwyr yn defnyddio cymysgedd o diwtorialau fideo a thasgau rhyngweithiol wrth iddynt gyflwyno mewnwelediad i'r hyn y gallech fod yn ei astudio ar un o'n graddau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

Profwch yr hyn sydd gan PDC i'w gynnig

Gallwch chi stopio, ailddechrau ac ailchwarae'r cyrsiau ar-lein unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau.

student-25

Cyflwyniad i Waith Ieuenctid

Mae ein cwrs rhagflas Cyflwyniad i Waith Ieuenctid yn cynnwys cymysgedd cynhwysfawr o dasgau rhyngweithiol a thiwtorialau fideo sy’n ymdrin â phynciau amrywiol mewn Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys Pum Piler Gwaith Ieuenctid a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Fel rhan o’r cwrs, byddwn yn eich arwain trwy daith gweithiwr ieuenctid, ‘lle gall gwaith ieuenctid fynd â chi’ a hanes a pholisi o fewn gwaith ieuenctid.