Mae ceisiadau fel arfer yn agor tua 4 mis cyn dechrau eich cwrs ac mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn 10 wythnos i ddechrau'r cwrs:
- Gwnewch gais ar-lein
- Mae canllawiau a gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael
- Rhaid i chi hefyd wneud cais ar wahân i SFW/SFE am eich benthyciad cynhaliaeth cyfradd ostyngol
Yn dibynnu ar ble rydych yn byw, rydych yn gwneud cais i naill ai:
Dylech wneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur PN1 naill ai gan SFW neu SFE oherwydd os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch eich asesu’n unig am y Benthyciad Cyfradd Ostyngol. Dylech gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi eich bod wedi optio allan o gyllid y GIG a darparu eich e-bost yn cadarnhau hyn gyda'ch cais.