BWRSARI CYDRADDOLDEB ETHNIG ÔL-RADDEDIG 2025/2026
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig 10 bwrsariaeth i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n dechrau ar eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2025-2026 ac sydd wedi hunan-nodi fel un o'r grwpiau ethnig canlynol o dan y penawdau a ganlyn yn unol â rhestr gyhoeddedig llywodraeth y DU: Du, Affricanaidd, Caribïaidd, neu Ddu Prydeinig, Cymysg neu Grwpiau Ethnig Lluosog, Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, Grŵp Ethnig Arall.
Ffioedd a chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-raddedig
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y Fwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnigrwydd Ôl-raddedig, sef dydd Gwener 4 Gorffennaf 2025, wedi mynd heibio, ac mae ceisiadau bellach ar gau.
I fod yn gymwys, bydd angen i chi fodloni'r holl feini prawf isod:
- Hunan-nodi fel un o'r grwpiau ethnig o dan y penawdau a ganlyn ar y rhestr gyhoeddedig hon gan Lywodraeth y DU:
- Grwpiau Ethnig Cymysg neu Luosog
- Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Du, Affricanaidd, Caribïaidd, neu Ddu Prydeinig
- Grŵp Ethnig Arall*
- Wedi gwneud cais am fynediad i radd ôl-raddedig amser llawn sy'n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2025-2026.
- Wedi gwneud cais am gwrs yn astudio ar gampws Prifysgol De Cymru - Pontypridd (Trefforest, Glyn-taf a Parc Chwaraeon), Caerdydd, Casnewydd.
- Yn fyfyriwr cartref yn y DU sy'n atebol am gyfradd ffioedd dysgu myfyrwyr cartref y DU ac yn gymwys i gael.
- Cael eich cofrestru'n llawn amser ar gwrs ôl-raddedig adeg y taliad ym mis Tachwedd 2025.
- Wedi gwneud cais am y fwrsariaeth erbyn 4 Gorffennaf 2025.
*Mae myfyrwyr y mae eu hethnigrwydd yn Sipsiwn, Roma, Teithiwr Gwyddelig, Cychwr neu Siewmon hefyd yn gymwys ar gyfer y bwrsari hwn.
Mae'r broses ymgeisio ar agor a bydd yn cau ddydd Mercher, 4ydd Gorffennaf, 2025. Sicrhewch eich bod wedi gwneud cais am gwrs cyn gwneud cais am y fwrsariaeth.
Byddwch yn derbyn £1,000 wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc pan fydd y fwrsariaeth wedi’i chadarnhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2025. Bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn cysylltu â myfyrwyr cymwys ym mis Tachwedd 2025 gyda gwybodaeth am sut i gael mynediad at y fwrsariaeth.
Dim ond yn eich blwyddyn gyntaf o astudio y mae'r fwrsariaeth ar gael. Sylwch: Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod mewn sefyllfa academaidd ac ariannol dda gyda'r Brifysgol ar adeg talu e.e. ni ddylent fod yn ddyledwr heb gynllun talu.
I benderfynu pwy fydd yn derbyn Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnig Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru, bydd y panel dyfarnu yn ystyried pob un o'r canlynol:
- A yw'r ymgeisydd yn bodloni meini prawf cymhwyster y fwrsariaeth
- Y wybodaeth a ddarperir yn eich datganiad ategol ar gyfer y fwrsariaeth
- Y wybodaeth a ddarperir ar sut y byddech yn rhagweld gwario'r fwrsariaeth
- Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd:
- o dan 25 ac sydd wedi bod mewn gofal o'r blaen • ag anabledd (gan gynnwys anabledd dysgu penodol)
- wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu
- y person cyntaf yn eu teulu i gwblhau cymhwyster gradd Meistr
- yn ffoaduriaid
- â’ch cod post cartref mewn Cymdogaeth Cyfranogiad Isel
- yn Ofalwyr - Diffiniad Ymddiriedolaeth y Gofalwyr o ofalwr yw “unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu nad yw'n gallu ymdopi heb eu cefnogaeth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed.” Sylwer y byddai’r dyletswyddau hyn yn ychwanegol at y cyfrifoldebau gofalu arferol a fyddai gan riant dros blentyn dibynnol
- Y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth neu Ysgoloriaeth PDC arall.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu geirda i gynorthwyo’ch cais cyn dod i benderfyniad terfynol.
Mae penderfyniad y panel dethol yn derfynol ac nid oes proses apelio.
Bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a restrir ar y ffurflen gais am fwrsariaeth o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y cais i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais.
Ar ôl y dyddiad cau, bydd y panel yn ystyried pob cais cymwys am y fwrsariaeth. Ein nod yw hysbysu myfyrwyr cymwys erbyn dydd Gwener, 26 Gorffennaf, 2025.
Oes.
Na, mae'r bwrsari hwn yn daladwy yn eich blwyddyn gyntaf yn unig.
Gallwch.
Na, mae Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnig Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru ar gael i fyfyrwyr y mae'r Brifysgol wedi'u nodi fel myfyrwyr cartref y DU yn unig
Os ydych yn bwriadu dechrau eich cwrs ym mis Medi 2026, bydd angen i chi wirio manylion unrhyw gynllun bwrsariaeth neu ysgoloriaeth sydd ar gael i fyfyrwyr newydd sy’n dechrau ym mis Medi 2026 a bodloni’r meini prawf cymhwysedd sy’n ymwneud â’r cynllun hwnnw, gan gynnwys gwneud cais bryd hynny os yn briodol.
Ystyrir pob cwrs ôl-raddedig amser llawn ar y campws ar gyfer y fwrsariaeth, mae hyn yn cynnwys yr MA, MSc, LLM, MBA, DBA, TAR, Diploma Ôl-raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, MRes, PhD, MPhil, Gradd Meistr trwy Ymchwil.
Os ydych yn astudio Gradd Meistr Integredig (MChiro, MComp, MEng) gallwch wneud cais am y fwrsariaeth israddedig.
Os ydych yn astudio cwrs ôl-raddedig ar-lein/e-ddysgu neu’n astudio cwrs ôl-raddedig gyda phartneriaeth freiniol e.e. Learna Ltd, UNICAF a Perpetuity Training, ni fyddech yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Cydraddoldeb Ethnig Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru.
Byddwch yn dal yn gymwys i dderbyn taliad ar yr amser a fwriadwyd os byddwch yn trosglwyddo i gwrs cymwys arall.
Na. Dim ond ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau cwrs ôl-raddedig amser llawn newydd ym mis Medi 2025 y mae'r fwrsariaeth.
Dim ond ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau ar gwrs ôl-raddedig cymwys amser llawn newydd ym mis Medi 2025 y mae'r fwrsariaeth.
Os byddwch yn gadael y Brifysgol cyn talu ym mis Tachwedd 2025, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn taliad bwrsariaeth. Os penderfynwch adael y Brifysgol ar ôl i'ch taliad gael ei wneud, mae gennych hawl i gadw'r taliad.
Bydd. Trwy dderbyn unrhyw daliadau rydych yn cytuno i ad-dalu unrhyw symiau y canfyddir wedyn eu bod yn ordaliadau neu'n daliadau anghywir. Bydd unrhyw ordaliadau nad ydynt yn cael eu haddalu yn arwain at gyfeirio'r ddyled at Adran Gyllid y Brifysgol a chymerir camau priodol.