YSGOLORIAETH NODDFA I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG PDC 2027/2028
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi dau ymgeisydd ôl-raddedig llwyddiannus gyda ffioedd dysgu wedi'u hepgor am gyfnod eu hastudiaethau ôl-raddedig ac ysgoloriaeth i gynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â'r cwrs.
Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
- Bod yn Berson sy'n Ceisio Lloches
- Bod â Chaniatâd Cyfyngedig i Aros (o ganlyniad i gais am loches)
- Bod yn bartner/dibynnydd sydd wedi'i gynnwys ar gais person o unrhyw un o'r grwpiau uchod*
* Rhaid bod priod/partner sifil wedi bod yn briod/partner sifil ar y dyddiad y gwnaed y cais am loches. Rhaid bod plant/llysblant wedi bod o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaed y cais am loches
Yn ogystal, rhaid eich bod hefyd
- wedi cael cynnig amodol neu ddiamod ar gyfer gradd ôl-raddedig llawn amser ym Mhrifysgol De Cymru a fydd yn dechrau ym mis Medi 2027.
- wedi derbyn y cynnig ar sail gadarn
- wedi gwneud cais am gwrs sy'n parhau o leiaf tair blynedd academaidd (ac eithrio cyrsiau a ariennir gan y GIG e.e. nyrsio) erbyn 16:30 dydd Gwener 4 Mehefin 2027
- yn byw o fewn pellter teithio rhesymol i’r campws lle cynhelir y cwrs o’ch dewis
- Ni ddylai fod angen cymorth ychwanegol arnoch gan y Brifysgol ar gyfer costau byw neu lety heblaw'r hyn a ddarperir trwy Ysgoloriaeth Noddfa i Fyfyrwyr ôl-raddedig PDC
- Oherwydd eich statws mewnfudo, nid ydych yn gymwys i gael Cyllid i Fyfyrwyr gan awdurdod arall e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru, Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS), Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon ac ati (efallai y bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o hyn)
- yn gwneud cais am yr ysgoloriaeth erbyn 16:30 dydd Gwener 2 Gorffennaf 2027
Bydd yr ysgoloriaeth yn hepgor costau ffioedd dysgu’n llawn ar gyfer gradd ôl-raddedig llawn amser gymwys trwy gydol eich rhaglen wreiddiol neu hyd nes y byddwch yn dod yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol i fyfyrwyr gan lywodraeth y DU, ac ar yr adeg honno mae rhaid i dderbynwyr yr ysgoloriaeth wneud cais am y cymorth hwn.
Yn ogystal â hepgor ffioedd dysgu, bydd y Brifysgol yn darparu’r cymorth canlynol:
Cyn Mynediad
- Prawf Iaith Saesneg os oes angen ar gyfer mynediad
- Cwrs Iaith Saesneg cyn-sesiynol hyd at 5 wythnos os asesir ei fod yn angenrheidiol
Blwyddyn 1
- Cymorth i brynu dyfais electronig (e.e. gliniadur neu lechen)
- Cymorth tuag at gostau teithio lleol e.e. Cerdyn rheilffordd o Gaerdydd i Drefforest neu Gaerdydd i Gasnewydd neu deithio lleol arall o gyfeiriad cartref i'r brifysgol
- Taleb llyfr i gefnogi prynu testunau academaidd
- Taleb bwyd i’w defnyddio ym mannau arlwyo PDC
- Cymorth gyda threuliau sy’n gysylltiedig â’r cwrs e.e. costau argraffu
- £100 yn y flwyddyn olaf i helpu gyda chostau graddio
Bydd swm y cymorth ariannol yn cael ei bennu gan y panel yn flynyddol. Fel arfer ni chaiff eitemau eu cyfnewid am gymorth arall, ac ni fydd ceisiadau am daliad mewn nwyddau fel arfer yn cael eu hystyried. Ni chaiff unrhyw gyllid ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r myfyrwyr fel na fydd yn effeithio ar unrhyw gymorth ariannol gan Swyddfa Gartref y DU a bydd yn aros o fewn yr amod Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.
Rhaid i chi gyflwyno'r cais erbyn 16:30 ddydd Gwener 2 Gorffennaf 2027.
I benderfynu pwy fydd yn derbyn Ysgoloriaeth Noddfa i Fyfyrwyr ôl-raddedig PDC, bydd y panel dyfarnu yn ystyried pob un o'r canlynol:
- a yw’r ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer yr ysgoloriaeth,
- pa ymgeiswyr cymwys fyddai'n elwa fwyaf o dderbyn Ysgoloriaeth Noddfa i Fyfyrwyr ôl-raddedig PDC gan ystyried:
- statws preswyl;
- unrhyw rwystrau y mae ymgeiswyr wedi'u hwynebu i gael mynediad at addysg uwch a'i chwblhau;
- mynediad at ffynonellau cyllid eraill;
- uchelgeisiau ymgeiswyr ar gyfer y dyfodol;
- rhwydweithiau cymorth yr ymgeiswyr;
- datganiad personol yr ymgeiswyr.
- lle mae ymgeiswyr yn byw ar hyn o bryd mewn perthynas â'r campws y cynhelir y cwrs arno
Efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad i drafod eich cais cyn gwneud penderfyniadau terfynol.
Mae penderfyniad y panel dethol yn derfynol ac nid oes proses apelio.
Os oes angen prawf Iaith Saesneg arnoch, byddwn yn prosesu'r cais ar gyfer hwn o fewn 10 diwrnod gwaith. Ar ôl i chi dderbyn canlyniad eich prawf, byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych yn dal yn gymwys i gael eich ystyried ar gyfer gweddill yr ysgoloriaeth.
Ar ôl y dyddiad cau, bydd y panel yn ystyried yr holl geisiadau cymwys sydd ar ôl ar gyfer yr ysgoloriaeth. Byddwch yn cael eich hysbysu o'u penderfyniad o fewn pythefnos i'r dyddiad cau.
Sylwch y gallai’r panel yn gofyn i chi fynychu cyfweliad i drafod eich cais ymhellach.
Hefyd bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwrdd ag aelod o'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol cyn cofrestru i dderbyn amodau cofrestru a gwirio eu statws mewnfudo.
Os nad oes gennych yr hawl i astudio wedi'i gadarnhau gan Swyddfa Gartref y DU, ni chaniateir i chi ddechrau eich rhaglen astudio ac ni fyddwch yn derbyn cymorth gan yr ysgoloriaeth.
Os ydych yn ystyried toriad ar eich astudiaethau, bydd rhaid i chi gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr cyn i chi gwblhau toriad ar eich astudiaethau. Gall toriad ar eich astudiaethau gael effaith ar eich cymhwysedd i dderbyn Ysgoloriaeth Noddfa i Fyfyrwyr ôl-raddedig PDC. Bydd rhaid i chi hysbysu'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw broblemau posibl.
Os byddwch yn derbyn unrhyw newidiadau i'ch statws mewnfudo, bydd RHAID i chi hysbysu'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ar unwaith. Bydd rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw ymateb gan y Swyddfa Gartref ni waeth beth yw'r newid - cadarnhaol neu negyddol neu unrhyw newidiadau neu geisiadau mewnfudo newydd a gyflwynir.
Os byddwch, o ganlyniad i unrhyw un o’r newidiadau hyn, yn dod yn gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr gan lywodraeth y DU, yna bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn eich cynorthwyo i wneud cais am hwn. Bydd rhaid i chi wneud cais amdano os byddwch yn dod yn gymwys.
Unwaith y byddwch yn derbyn y cyllid hwn, bydd eich Ysgoloriaeth Noddfa yn cael ei hailasesu i ystyried hyn.
Os ydych chi'n ystyried newid o astudio llawn amser i astudio rhan-amser yn ystod eich astudiaethau, bydd rhaid i chi hysbysu'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr cyn i unrhyw newid gael ei gwblhau gyda'ch cyfadran.
Os oes gennych gytundeb gan eich cyfadran i newid dros dro o raglen astudio llawn amser i un rhan-amser, efallai na fydd gennych hawl i dderbyn cymorth Ysgoloriaeth Noddfa yn ystod eich cyfnod astudio estynedig.
Mae eich hawl i ysgoloriaeth yn ystod unrhyw gyfnod astudio estynedig yn ôl disgresiwn y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
Gall y Brifysgol gysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus yr Ysgoloriaethau Noddfa i Fyfyrwyr ôl-raddedig ynghylch eu profiad o astudio ym Mhrifysgol De Cymru.