Ffioedd a Chyllid

Sut i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr Israddedig

I'ch helpu i fforddio mynychu'r brifysgol, dyma sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr i gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu a'ch costau byw (cynhaliaeth). Y ffordd hawsaf o wneud cais am gyllid myfyrwyr yw ar-lein.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
A student sat on a sofa in front of a window with a laptop.

Benthyciadau a grantiau

Ffioedd dysgu 

Mae Benthyciadau Ffioedd Dysgu ar gael i dalu am eich ffioedd dysgu, hyd at uchafswm o £9,535 ar gyfer astudio yng Nghymru.

Cymorth Cynhaliaeth 

Mae cymorth cynhaliaeth hefyd ar gael tuag at eich costau byw. 

Cyfanswm y cymorth sydd ar gael yn 2025/2026

  • £12,345 (os yn byw mewn man arall)
  • £10,480 (os yn byw yng nghartref y rhieni)

Grant cynhaliaeth o £1,000 ar gael i bob myfyriwr cymwys.

Grant ychwanegol yn seiliedig ar brawf modd ar gyfer incwm aelwydydd o dan £59,200.

Benthyciad cynhaliaeth ar gael i ychwanegu at lefel y cymorth grant i'r cyfanswm cefnogaeth.

Gallwch wneud cais ar-lein yn Cyllid Myfyrwyr Cymru  o mis Mawrth 2025 ac argymhellir eich bod yn gwneud cais yn gynnar i roi digon o amser i gyllid myfyrwyr brosesu'ch cais.

Grant Cymorth Arbennig 2025/2026

Os ydych yn gymwys i gael Grant Cymorth Arbennig, byddwch yn cael yr un lefel o grant ond cyfradd uwch o fenthyciad o hyd at £5,670 (mewn mannau eraill) neu £4,740 (cartref rhieni). Yn ogystal, nid yw'r £5,161 cyntaf o'r grant yn cyfrif fel incwm pan fyddwch yn cyfrifo budd-daliadau neu gredydau treth eraill sy'n gysylltiedig ag incwm.

Benthyciad Ffioedd Dysgu 

Mae benthyciad ffioedd dysgu ar gael i dalu am eich ffioedd, hyd at uchafswm o £9,535.

Benthyciad Cynhaliaeth yn 2025/2026 - yr uchafswm y gallwch ei dderbyn yw:

  • Byw oddi cartref (tu allan i Lundain): £10,554, neu £12,019 os ydych chi'n gymwys i dderbyn budd-daliadau penodol *
  • Byw gartref: £8,877, neu £10,473 os ydych chi'n gymwys i dderbyn budd-daliadau penodol *

* Efallai y gallwch gael swm ychwanegol o Fenthyciad Cynhaliaeth i helpu tuag at eich costau byw os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol tra byddwch chi ar eich cwrs:

  • rydych chi'n rhiant sengl neu'n rhiant maeth sengl i blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sydd mewn addysg amser llawn islaw lefel addysg uwch neu ar gwrs hyfforddiant cymeradwy;
  • mae gennych bartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn ac mae un ohonoch neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sydd mewn addysg amser llawn islaw lefel addysg uwch neu ar gwrs hyfforddiant cymeradwy;
  • mae gennych anabledd ac yn gymwys i gael y Lwfans Byw i'r Anabl, Premiwm Anabledd neu Bremiwm Anabledd Difrifol;
  • rydych chi'n gymwys i gael Taliad Annibyniaeth Personol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog;
  • rydych chi'n fyddar ac yn gymwys ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl;
  • rydych chi wedi cael eich trin fel rhywun na all weithio am gyfnod di-dor o 28 wythnos o leiaf;
  • mae gennych anabledd ac yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm; neu
  • rydych chi'n aros i fynd yn ôl i gwrs ar ôl cymryd amser y cytunwyd arno o'r cwrs hwnnw oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd bellach wedi dod i ben.

Gallwch wneud cais ar-lein yn Cyllid Myfyrwyr Lloegr ac argymhellir eich bod yn gwneud cais yn gynnar i roi digon o amser i cyllid myfyrwyr brosesu'ch cais.

Benthyciad Ffioedd Dysgu 

Mae benthyciad ffioedd dysgu ar gael i dalu am eich ffioedd, hyd at uchafswm o £9,250.

Benthyciad Cynhaliaeth 
Yr uchafswm y gallwch ei dderbyn yn 2024/2025 yw: 

  • Byw oddi cartref: £6,776 

Os ydych chi’n derbyn Grant, mae swm y benthyciad rydych chi’n ei gael yn cael ei leihau.* 

Grant Cynhaliaeth 

Yr uchafswm y gallwch ei gael yn 2024/2025 yw £3,475. 

  • Yng Ngogledd Iwerddon, os byddwch yn derbyn y grant llawn o £3,475, byddwch yn derbyn £4,661 o fenthyciad. Gallai hyn fod yn fwy os ydych yn derbyn Grant Cymorth Arbennig. 

Gallwch wneud cais ar-lein yn Student Finance Northern Ireland. 

Benthyciad Ffioedd Dysgu 

Mae benthyciad ffioedd dysgu ar gael i dalu cost lawn eich ffioedd, hyd at uchafswm o £9,250. 

Cymorth Cynhaliaeth 
Mae pecyn o fenthyciadau a bwrsariaethau ar gael. Bydd y symiau sydd ar gael yn dibynnu ar a ydych yn cael eich asesu fel Myfyriwr Ifanc neu Fyfyriwr Annibynnol. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Student Awards Agency Scotland. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.