Astudio

Gwasanaeth Datgelu A Gwahardd (DBS)

Cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n cael cyswllt penodol â phlant neu oedolion agored i niwed fel rhan o'u hastudiaethau.

Euogfarnau Troseddol Polisïau a Gweithdrefnau
teacher and students smiling while teacher holds classroom utensils. They are all sat at a table.

Mae nifer o gyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru yn cynnwys myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad neu weithgaredd sy'n cynnwys cyswllt penodol â phlant neu oedolion agored i niwed; gelwir hyn yn Weithgaredd Rheoledig.

Ar gyfer y rhain, mae'n ofynnol i ni sicrhau bod myfyrwyr yn addas drwy ddatgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Cynhelir y gwiriadau hyn ar lefel uwch ar gyfer y rhestrau Gweithlu a Gwahardd sy'n berthnasol i'r cwrs.

Lle mae angen gwiriad DBS, mae ymgeiswyr/myfyrwyr yn atebol i dalu’r holl ffioedd cysylltiedig nad oes modd eu had-dalu. Y ffi yw £55.42 ac mae'n rhaid i chi ei thalu pan fyddwch yn ymweld â Swyddfa'r Post i gael eich gwiriadau dilysu. (Roedd y ffi yn gywir ar 01/10/2021).

Ar ôl cwblhau'r cwrs, caiff myfyrwyr eu hannog i gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru'r DBS am ffi flynyddol ychwanegol o £13. Bydd hyn yn eich diogelu drwy gydol eich cwrs. Fel arall, bydd angen i chi gael DBS newydd ar ddechrau pob blwyddyn o'ch cwrs.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich Datgeliad DBS mewn lle diogel, gan y bydd angen ei ddangos yn eich lleoliadau drwy gydol eich cwrs a’i ddefnyddio ar y cyd â'r gwasanaeth diweddaru. 

Lawrlwythwch y broses ar gyfer ymgeiswyr o’r DU i gael Datgeliad DBS drwy Brifysgol De Cymru.

Lawrlwythwch y broses ar gyfer ymgeiswyr o’r UE a rhyngwladol i ddarparu Gwiriad Heddlu clir (y cyfeirir ato’n aml fel Tystysgrif Ymddygiad Da).

Os oes gennych gwestiwn nad yw wedi'i restru isod, defnyddiwch ein ffurflen cysylltu â ni a dewis ‘Mae gennyf gwestiwn am fy DBS’ fel natur eich cwestiwn. Fel arall, gallwch gysylltu dros y ffôn neu drwy e-bost. 

Cwestiynau Cyffredin

Dim ond ar adeg cyhoeddi ac i’r sefydliad / cwmni sy’n gofyn amdano  y mae DBS yn ddilys oni bai bod yr unigolyn yn cofrestru i’r DBS fod yn gludadwy a’i gadw’n gyfoes (rhaid cofrestru o fewn 30 diwrnod i gyhoeddi’r datgeliad).  Gelwir y gwasanaeth hwn yn ‘Wasanaeth Diweddaru’ a ddarperir gan y DBS ac mae'n costio £13 y flwyddyn i danysgrifio. (Roedd y ffi yn gywir ar 01/10/2019).

Ar yr amod eich bod wedi ymuno â'r Gwasanaeth Diweddaru DBS a bod lefel y Datgeliad sydd gennych yn cyfateb i ofynion eich cwrs, yna gallwn dderbyn hyn. Sganiwch (neu dynnu llun) ac e-bostiwch gopi o dudalen flaen eich Datgeliad i [email protected] fel y gallwn gwblhau'r gwiriad diweddaru (Os nad yw eich DBS yn glir, bydd angen i ni weld pob tudalen).

Os nad ydych wedi ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru a/neu os yw lefel y Datgeliad yn is na’r hyn sydd ei angen ar eich cwrs, bydd gofyn i chi gwblhau DBS newydd gyda Phrifysgol De Cymru. Edrychwch ar yr e-bost a anfonwyd atoch am y camau i gwblhau hyn.

Mae gan yr Alban eu  fersiwn eu hunain o’r DBS ond dim ond yn yr Alban maen nhw’n ddilys. 

Felly bydd angen i chi gwblhau DBS newydd drwy Brifysgol De Cymru. Edrychwch ar yr e-bost a anfonwyd atoch am y camau i gwblhau hyn.

Mae gan Ogledd Iwerddon eu fersiwn eu hunain o'r Gwiriad DBS. 

Gallwn dderbyn y Gwiriad Access NI Uwch, fodd bynnag nid ydym yn derbyn y gwiriad Sylfaenol na Safonol.

Sganiwch gopi o’r dystysgrif i [email protected]

Dim ond ar y cyd â'r datgeliad gwreiddiol y mae gwasanaeth diweddaru'r DBS yn ddilys. I gael gwybodaeth fanwl am hyn edrychwch ar y canllawiau ar wefan y DBS.

Os ydych wedi colli eich tystysgrif yna bydd angen i chi gwblhau DBS newydd. Sylwch y bydd gofyn i chi ddangos eich datgeliad yn eich lleoliadau drwy gydol eich cwrs felly mae'n hanfodol eich bod yn cadw hwn yn ddiogel.

Edrychwch ar yr e-bost a anfonwyd atoch am y camau i gwblhau datgeliad newydd.

Mae ein System DBS Ar-lein yn cael ei gweinyddu gan gwmni allanol, First Advantage, a gallwch gael mynediad i’r Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr yma. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio eu system neu lenwi’r ffurflen, cysylltwch â First Advantage yn uniongyrchol:

Ffôn – 0115 969 4600 

E-bost - [email protected]

Mae ein System DBS Ar-lein yn cael ei gweinyddu gan gwmni allanol, First Advantage, a gallwch gael mynediad i’r Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr yma. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio eu system neu lenwi’r ffurflen, cysylltwch â First Advantage yn uniongyrchol:

Ffôn – 0115 969 4600 

E-bost - [email protected]

Dewch o hyd i’ch Swyddfa Bost agosaf.

Rhowch eich cod post yn y blwch chwilio a dewiswch ‘DBS ID Verification Service’ o’r gwymplen ‘service required’. Yna fe welwch restr o Swyddfeydd Post yn eich ardal chi.

Fel arall gallwch gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid Swyddfa'r Post ar-lein. 

Ydy, rydym wedi grwpio cyrsiau gyda'i gilydd o dan bynciau amrywiol oherwydd y math o DBS sydd ei angen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y swydd sydd wedi'i hanfon atoch yn eich e-bost. 

Os byddwch yn dewis swydd wahanol efallai y byddwch yn cael y math anghywir o wiriad ac efallai y bydd angen i chi gwblhau cais DBS newydd (a thalu amdano eich hun). 

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd diwedd y ffurflen gais ar-lein bydd angen i chi argraffu'r ffurflen hunaniaeth a mynd â hon i Swyddfa Bost y Goron ynghyd â'ch dogfennau adnabod a'ch ffi. 

Rhowch sylw gofalus i'r dyddiad cau ar y ffurflen hon. Mae'n rhaid i chi fynd i Swyddfa'r Post cyn y dyddiad hwn neu bydd angen i chi ailgofrestru a llenwi ffurflen gais ar-lein newydd.

Mae’r rhain yn negeseuon e-bost awtomatig a fydd yn parhau i gael eu hanfon atoch yn rheolaidd nes bod eich cofnod wedi’i ddiweddaru i gadarnhau eich bod wedi cwblhau proses y DBS.

Bydd eich cofnod yn cael ei ddiweddaru unwaith y bydd Grŵp Prydain Fawr yn cadarnhau bod y DBS wedi anfon eich tystysgrif atoch a’i fod yn glir. 

Caiff ymgeiswyr eu hannog i olrhain hynt eu cais DBS ar wefan gov.uk.

Caiff ymgeiswyr eu hannog i olrhain hynt eu cais DBS ar wefan gov.uk.

Os oes nodyn yn dweud bod eich DBS wedi cael ei bostio atoch ac nad ydych wedi’i gael o fewn wythnos, bydd angen i chi gysylltu â’r DBS yn uniongyrchol a mynd ar drywydd hyn yn uniongyrchol gyda nhw.

Na, dim ond os nad yw'ch datgeliad yn glir y bydd angen i ni weld copi a byddwn yn anfon e-bost atoch yn uniongyrchol os yw hyn yn wir.

Cadwch eich Tystysgrif Datgelu mewn lle diogel gan y bydd angen i chi ei dangos i'ch cydlynydd lleoliad o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl i'ch cwrs ddechrau a mynd â hi gyda chi i'ch lleoliadau. 

Get in touch

Ffonio

Ymholiadau Cyffredinol y DU

03455 76 77 78

Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol

01443 654450

E-Bost

Ymholiadau Cyffredinol y DU

[email protected]

Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol

Israddedig: [email protected] 

Ôl-raddedig: [email protected]