Cyrsiau Byr Addysg

Arwain a Rheoli AAA/ADY

Bydd y modiwl unigryw hwn yn tynnu ar wybodaeth a phrofiad ymarferwyr ym maes AAA/ADY.

Graddau Addysg Cyrsiau Byr Addysg
A teacher and young pupil play a numbers game using 3 foam dice

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys Ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig. Bydd hyn yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan mewn Teithiau Dysgu ac arsylwi arfer gorau.


  • Ddatblygu eich priodoleddau proffesiynol i wella cyflawniad plant a phobl ifanc ag AAA/ADY trwy ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth, eich sgiliau a'ch gallu i gynnwys dysgwyr ag AAA/ADY yn llawn yn eu lleoliad.
  • Ddatblygu eich ymateb beirniadol i ymchwil a llenyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol gyfredol berthnasol.
  • Rhoi’r cyfle i chi fyfyrio’n systematig ar eich gwerthoedd a’ch ymarfer proffesiynol er mwyn gwella profiad dysgwyr ag AAA/ADY.
  • Ddatblygu’r sgiliau i’ch galluogi i ddefnyddio ystod o ddata perthnasol, a gesglir ar lefel unigol, ysgol a chenedlaethol i lywio a gwella eu harfer.

Mae'r modiwl yn gwbl gynhwysol ac wedi'i anelu at ymarferwyr sy'n gweithio mewn Ysgolion Prif Ffrwd ac Ysgolion Arbennig.

Agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysgol (Tribiwnlys) Cymru 2018 newydd gan gynnwys:

  • Cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr Unigolyn ar waith
  • Olrhain a monitro cynnydd dysgwyr
  • Ymgorffori llais y dysgwr a hawliau’r plentyn mewn diwylliant ysgol cynhwysol
  • Arwain a rheoli staff mewn amgylchedd ystafell ddosbarth
  • Amgylcheddau dysgu AAA/ADY effeithiol
  • Datblygu diwylliant o gydweithio ag asiantaethau allanol
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Datblygu cynlluniau pontio
  • Datblygu gwasanaethau Allgymorth

Asesir y modiwl mewn dwy ran:

  1. Adroddiad hunanfyfyriol a fydd yn cynnwys cofnod personol o'ch profiadau dysgu. Mae hyn yn cyfateb i 4,000 o eiriau.
  2. Cyflwyniad byr 10 munud yn seiliedig ar eich adroddiad myfyriol i'w rannu â'ch cyfoedion ar y modiwl.

 

Ar ôl ei gwblhau, mae'r modiwl hwn yn darparu 30 credyd ar lefel 7. Gallwch ddefnyddio'r credydau hyn tuag at ddyfarniad MA llawn, gan gynnwys MA AAA/ADY, MA AAA/ADY (Awtistiaeth) neu MA Arwain a Rheoli (Addysg).

I gofrestru eich diddordeb neu ddarganfod mwy am y cwrs hwn e-bostiwch [email protected].