Cyrsiau Byr Addysg

Dysgu Proffesiynol

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio’n arbennig i gefnogi ymarferwyr i ddadansoddi a gwerthuso’n feirniadol theori, polisi ac ymarfer mewn perthynas â’u rôl broffesiynol eu hunain.

Graddau Addysg Cyrsiau Byr Addysg
Primary teaching students conversing in a classroom.

Gellir ei gyfuno â modiwl arall, Dysgu Proffesiynol trwy Ymchwil Gweithredol, i ennill Tystysgrif Addysg i Raddedigion.


Nod y modiwl hwn mewn Dysgu Proffesiynol yw eich cefnogi i fyfyrio'n feirniadol ar eich dysgu mewn datblygiad proffesiynol parhaus diweddar a gyflawnwyd ac archwilio effaith yr hyfforddiant hwn ar ymarfer.

Bydd yn eich galluogi i gwmpasu eich dewis bwnc, gan nodi, dadansoddi a blaenoriaethu materion allweddol wrth baratoi ar gyfer eich ymchwil eich hun yn y maes astudio hwnnw.

Byddwch hefyd yn dysgu gwerthuso canfyddiadau ymchwil hyd yma yn feirniadol yn y maes a ddewiswyd fel ffocws eich astudiaeth, dyfnhau eich dealltwriaeth a datblygu eich sgiliau i'ch galluogi i wneud ymchwil proffesiynol.

Mae’r modiwl hwn mewn Dysgu Proffesiynol hefyd yn anelu at fod yn gyfrwng, sy’n rhoi’r cyfle ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus pwrpasol fel rhan o bartneriaethau cydweithredol.

 

Mae'r modiwl wedi'i anelu at unrhyw ymarferwr mewn rôl broffesiynol. Yn nodweddiadol, daw cyfranogwyr o amrywiaeth o rolau yn y sector cyhoeddus neu sefydliadau masnachol neu drydydd sector.

Mae opsiwn i gyfranogwyr gydweithio â chydweithwyr trwy ymchwilio i bynciau sy'n gysylltiedig â thema gyffredin.

Yn ystod y modiwl Dysgu Proffesiynol byddwch yn astudio:

  • Dulliau ymchwil: dulliau methodolegol gwahanol a chynllunio prosiect ymchwil ar raddfa fach, gan gynnwys moeseg mewn ymchwil.
  • Ysgrifennu ar Lefel Meistr: ysgrifennu'n fyfyriol, ysgrifennu'n feirniadol a llunio dadleuon academaidd.
  • Cwmpasu a strwythuro: adolygiad o lenyddiaeth a strategaethau ymchwil llenyddiaeth.
  • Gwerthusiad beirniadol o ymchwil cyhoeddedig a nodi meysydd i'w hastudio gan gynnwys dadansoddi, gwerthuso neu gyfuno syniadau yn y maes.
  • Cynhyrchu, dadansoddi a gwerthuso data er mwyn ateb cwestiynau ymchwil.

Asesir y modiwl Dysgu Proffesiynol mewn dwy ran:

  1. Disgrifiad a gwerthusiad adfyfyriol o hyfforddiant DPP diweddar a gynhaliwyd gyda dadansoddiad o effaith yr hyfforddiant hwn ar ymarfer. Dylai’r cyfrif fod yn seiliedig ar leiafswm o ugain awr o ddysgu proffesiynol, a gwblhawyd o fewn y flwyddyn flaenorol. Gellir cyflwyno'r log fel dogfen wedi'i gairbrosesu neu fel blog neu wiki ar-lein. (1000 o eiriau)
  2. Adolygiad beirniadol o ffynonellau academaidd ac astudiaethau ymchwil yn y maes dewisol. Bydd hyn yn amlygu perthnasedd a chymhwysiad theori i'r maes a ddewiswyd. Mewn ymgynghoriad ag arweinydd y modiwl, efallai y bydd yn bosibl i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau ar y cyd lle mae gwaith wedi'i wneud ar y cyd. (4000 o eiriau)

Mae'r modiwl hwn yn darparu 30 credyd ar lefel 7 (lefel Meistr) a gellir ei gyfuno â modiwl arall, Dysgu Proffesiynol trwy Ymchwil Gweithredol, i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig.

Os dymunwch wedyn barhau â'ch astudiaethau gallwch ddefnyddio'r credydau hyn tuag at ddyfarniad MA llawn, gan gynnwys yr MA Arloesedd, Dysgu ac Addysgu neu MA Arwain a Rheoli (Addysg). 

 

I gofrestru eich diddordeb neu ddarganfod mwy am y cwrs hwn e-bostiwch [email protected]