Cyrsiau Byr Addysg

Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu – modiwl ANG

Mae’r modiwl Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso i weithio ar fodiwl 30 credyd Lefel 7 tra byddant yn cwblhau eu blwyddyn sefydlu yn yr ysgol.

Graddau Addysg Cyrsiau Byr Addysg
USW student on placement, supervising three children colouring.

Mae wedi'i strwythuro i integreiddio â'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer athrawon yng Nghymru, ac i ategu'r log proffesiynol, adfyfyriol y mae ANG yn ei gynhyrchu yn ystod eu blwyddyn gyntaf.


Nod y modiwl Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yw:

  • Datblygu fyfyrdodau beirniadol ar eich profiad o'ch blwyddyn sefydlu.
  • Datblygu eich ymateb beirniadol i ymchwil a llenyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol gyfredol berthnasol.
  • Rhoi’r cyfle i chi fyfyrio’n systematig ar y Safonau Proffesiynol a’r athroniaethau a’r dyheadau y maent yn eu hymgorffori.

Mae’r modiwl Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu wedi’i anelu at ANG mewn ysgolion cynradd neu uwchradd yng Nghymru.

Byddwch yn archwilio'r Safonau Proffesiynol o safbwyntiau damcaniaethol ac ymarferol. Felly mae'r modiwl wedi'i strwythuro o amgylch:

  • Addysgeg
  • Cydweithio
  • Arloesedd
  • Dysgu Proffesiynol
  • Arweinyddiaeth

Asesir y modiwl Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu mewn dwy ran:

  1. Archwiliad adfyfyriol o'ch profiad o'r pum Safon Broffesiynol. (4,000 o eiriau).
  2. Cyflwyniad byr 10 munud yn seiliedig ar eich adroddiad myfyriol i'w rannu â'ch cyfoedion ar y modiwl.

Mae’r modiwl hwn yn darparu 30 credyd ar lefel 7.

Gallwch ddefnyddio'r credydau hyn tuag at ddyfarniad MA llawn, gan gynnwys yr MA Arloesedd, Dysgu ac Addysgu neu MA Arwain a Rheoli (Addysg).

I gofrestru eich diddordeb neu ddarganfod mwy am y cwrs hwn e-bostiwch [email protected]