Mae astudio Ceiropracteg wedi dysgu llawer i fi amdanaf i fy hun. Do’n i ddim yn sylweddoli tan nawr gymaint rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl.
Dewis astudio Ceiropracteg yn PDC
"Rwy'n un o ddau blentyn o le o'r enw Happy Garden neu Taman Gembira, trefgordd ger Kuchai Lama, Kuala Lumpur. Mae fy chwaer hŷn yn fferyllydd ac yn fodel rôl i fi. Mae fy rhieni wedi ein magu i gael calonnau da ac i ofalu am bobl. Ro’n i'n gwybod fy mod eisiau helpu pobl ond do’n i ddim eisiau bod yn feddyg, felly dewisais i Geiropracteg.
Roedd dod i’r UD i astudio yn gam mawr. Buodd rhaid i fi weithio'n galed a chael graddau da. Roedd fy rhieni’n gallu gweld mor ymroddedig o’n i, felly ro’n nhw'n cefnogi fy mhenderfyniad, er fy mod i'n fychan ac yn fyr o ran corff - nid dewis amlwg ar gyfer ceiropractydd!
Fe astudiais i Geiropracteg am ddwy flynedd ym Malaysia cyn i fi ddod i PDC. Mae'r hyfforddiant yma yn wahanol, yn fwy ymarferol. Cymerodd ychydig wythnosau i fi addasu ond rwy’n gwbl gartrefol nawr!
Rwy'n mwynhau'r cwrs Ceiropracteg a byw yn y DU. Mae pedwar myfyriwr arall o Malaysia ar y cwrs, sydd wedi bod yn wych. Yn fy ail a thrydedd flwyddyn, roedd gen i swydd ran amser yng Nghaerdydd a oedd yn ffordd wych o ennill arian a chwrdd â phobl newydd.
Gwneud yn fawr o'r bedwaredd flwyddyn o astudio
Rwy'n mwynhau fy mhedwaredd flwyddyn, dyna pryd rwyf wedi dysgu fwyaf rwy’n meddwl! Mae gweithio yn y clinig a gyda gwahanol fathau o gleientiaid yn dod â phleser arbennig i fi. Dydw i ddim wedi penderfynu ym mha faes rwyf eisiau arbenigo eto, ond mae gen i ddiddordeb mewn gwaith pediatreg a chyn-eni.
Mae astudio Ceiropracteg wedi dysgu llawer i fi amdanaf i fy hun. Do’n i ddim yn sylweddoli tan nawr gymaint rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl.
Mae un foment yn sefyll allan i fi: Mae gen i gleient rwyf wedi bod yn ei gweld ers ychydig fisoedd. Y tro cyntaf iddi ddod i mewn, roedd ganddi boen ym mhobman ac roedd hefyd yn dioddef o orbryder ac iselder. Sylweddolais ei bod hi angen siarad, a bod angen i fi wrando yn ogystal â thrin ei chefn. Agorodd fy llygaid i'r math o ymarferydd rwyf eisiau bod. Rwyf eisiau trin y person cyfan, nid dim ond lleddfu poen corfforol."
Diddordeb mewn Ceiropracteg?
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.