Lora Roberts

Mae cymhwyster Ceiropracteg yn rhoi cymaint o opsiynau i chi

Ceiropracteg

Gwnaeth gweld ceiropractydd wir agor fy llygaid, felly penderfynais gofrestru ar y cwrs Ceiropracteg yn PDC.


Troi hobi’n gymhwyster 

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y corff dynol a sut mae'n gweithio. Rwyf wedi bod yn athletwr trac a maes erioed, yn cynrychioli Cymru mewn rasys clwydi 100m. Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau chwarae rygbi dros Ystum Taf. 
 
Roedd rhedeg rasys clwydi yn effeithio’n wirioneddol wael ar waelod fy nghefn, felly fe es i weld ceiropractydd. Ro’n i'n synnu at y gwahaniaeth a wnaeth ac mor gyflym y buodd modd i fi ddechrau hyfforddi eto. 
 
Ar y pryd, roeddwn i'n astudio gradd bioleg mewn prifysgol arall, ond do’n i ddim yn mwynhau a dweud y gwir. Gwnaeth gweld ceiropractydd wir agor fy llygaid, felly penderfynais gofrestru ar y cwrs Ceiropracteg yn PDC. 
 
Dyna'r penderfyniad gorau i fi ei wneud erioed. Rwy'n mwynhau fy hyfforddiant Ceiropracteg yn fawr, yn enwedig nawr ’mod i yn y bedwaredd flwyddyn ac yn gweithio yn y clinig. Rwyf wrth fy modd yn rhyngweithio â chleifion a gallu helpu pobl. 
 
Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyriwr pedwaredd flwyddyn yn cael ei aseinio i chi i’ch trin trwy gydol y flwyddyn. Ar ôl fy sesiwn gyntaf gyda nhw, rwy'n cofio meddwl mai dyn beth ro’n i am wneud, mae hyn mor cŵl! 

Dewch o hyd i'ch cwrs

DYNA'R PENDERFYNIAD GORAU I FI EI WNEUD ERIOED. RWY'N MWYNHAU FY HYFFORDDIANT CEIROPRACTEG YN FAWR.

Lora Roberts

Myfyriwr Ceiropracteg

Cynlluniau ar ôl graddio

Fy nghynllun ar ôl graddio yw gweithio i rywun arall am ychydig flynyddoedd ac yna agor fy nghlinig fy hun. 
 
Dydw i ddim yn meddwl ’mod i eisiau arbenigo mewn unrhyw faes penodol gan ’mod i’n mwynhau'r amrywiaeth sy’n dod o weithio gyda gwahanol gleientiaid. Gyda'r cymhwyster hwn, gallaf hefyd weithio dramor, felly mae gen i lawer o opsiynau." 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Ceiropracteg?

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.