Cefais fy nghyflwyno'n raddol i gleifion a'm cefnogi gan diwtoriaid clinigol. Dechreuais gysgodi'r clinig yng Nghaerffili, lle rydw i bellach yn gweithio.
Wedi fy ysbrydoli gan brofiad personol
Pan oeddwn tua 11 neu 12, roedd gan fy mam anaf i'w hysgwydd a'i chefn a gafodd ei reoli trwy boenladdwyr cryf. Awgrymodd rhywun o'i heglwys ei bod hi'n ymweld â cheiropractydd ac o fewn cwpl o fisoedd, doedd dim angen y feddyginiaeth arni ragor ac roedd yn ôl i'w hen hunan. Roedd yn anhygoel gweld yr effaith a gafodd ar ansawdd ei bywyd. Yn fuan wedyn, cefais anaf rygbi a gofynnais i'm rhieni fynd â mi at geiropractydd. Roeddwn i wrth fy modd â'r profiad, gwellais yn gyflym, ac yn y pen draw cysgodais i’r clinig o 13 oed ymlaen. Roeddwn i'n gwybod yn union pa TGAU oedd eu hangen arnaf ac roedd fy angerdd yn parhau i dyfu.
Pan ddaeth hi'n amser i ddewis cwrs, roeddwn i eisiau'r profiad prifysgol llawn: cwrdd â gwahanol bobl, bod yn rhan o gampws mawr, a chael y bywyd myfyriwr cywir ochr yn ochr â'r cwrs cywir. Dyna beth arweiniodd fi at PDC. Ar y pryd, dyma'r unig radd ceiropracteg a oedd yn cynnig y cydbwysedd hwnnw mewn gwirionedd. Mynychais gwpl o Ddiwrnodau Agored ac roeddwn i'n hoffi'r campws a chynllun y cwrs. Roeddwn i'n gwerthfawrogi sut roedd popeth o'r neuaddau preswyl i adeiladau’r darlithoedd o fewn pellter cerdded.
Dewch o hyd i'ch cwrsDatblygu angerdd am fywyd clinig
Roedd fy lleoliad blwyddyn olaf yn PDC wedi'i leoli yng nghlinig ceiropracteg y brifysgol ei hun. Er gwaethaf y cyfnod clo yn cyfyngu ar rai cyfleoedd, roedd yn brofiad gwych a gadarnhaodd mai dyma'r yrfa i mi. Cefais fy nghyflwyno'n raddol i gleifion a'm cefnogi gan diwtoriaid clinigol. Dechreuais gysgodi'r clinig yng Nghaerffili, lle rydw i bellach yn gweithio, yn ystod fy misoedd olaf, ac erbyn i fy nghofrestriad ddod drwodd, roeddwn i'n barod i ddechrau trin. Fe wnaeth cefnogaeth gan staff, y datblygiad cyson o brofiad go iawn, a'r cyfleusterau i gyd roi'r hyder i mi gamu'n syth i ymarfer.
Mae'r cyfleusterau yn PDC wedi fy mharatoi'n dda ar gyfer gweithio mewn amgylchedd proffesiynol. Yr unig wahaniaeth gwirioneddol rhwng y clinig prifysgol a'r practis preifat oedd newid o nodiadau mewn llawysgrifen i nodiadau digidol. Roedd popeth arall - y meinciau triniaeth, yr offer, yr actifadyddion a’r dyrnwyr, yr un fath â'r hyn rydw i'n ei ddefnyddio nawr. Roedd yn glinig gweithredol go iawn a roddodd brofiad ymarferol i ni gyda chleifion go iawn, gan ein helpu i dyfu hyder a chymhwysedd. Mae'r amgylchedd wedi rhoi'r cymhelliant i mi barhau i ddysgu a gwella, ac fe siapiodd y clinigydd rydw i heddiw.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Ceiropracteg?
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.