Kieron Pritchard
Ennill gradd ac ysgrifennu cod ar gyfer y byd go iawn
Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch
Yn fy mlwyddyn gyntaf ro’n i'n gweithio ym maes TG i gwmni gweithgynhyrchu ffenestri a drysau, a dwi'n beiriannydd meddalwedd gyda’r gwasanaeth sifil nawr.
Dewis llwybr Prentisiaeth i mewn i Gyfrifiadureg
Dwi wedi bod wrth fy modd gyda chyfrifiadura ers pan o’n i’n yr ysgol, o’r gwersi TG cynnar i’r rhai Cyfrifiadureg, a dwi bob amser wedi mwynhau darganfod sut mae pethau'n gweithio ac adeiladu pethau. Fy mhrofiad rhaglennu cyntaf oedd gyda Scratch yn yr ysgol uwchradd, lle roedd modd llusgo a gollwng blociau i greu gemau, ac roedd y syniad ’mod i’n gallu creu rhywbeth o ddim byd yn gyfareddol. Datblygodd y diddordeb hwnnw’n naturiol i astudio cyfrifiadureg ac archwilio pynciau peirianneg, felly roedd cyfrifiadureg ar lefel gradd yn teimlo fel y cam nesaf iawn.
Roedd PDC yn arbennig o atyniadol achos bodolaeth Rhwydwaith75, sy'n caniatáu i chi astudio a gweithio yn y diwydiant ar yr un pryd. Doeddwn i ddim eisiau graddio ac yna treulio 18 mis yn chwilio am swydd heb unrhyw brofiad, yn enwedig mewn maes mor gystadleuol, felly roedd cael gwaith perthnasol â thâl ochr yn ochr â fy ngradd yn fantais enfawr. Yn fy mlwyddyn gyntaf ro’n i’n gweithio y maes TG i gwmni gweithgynhyrchu ffenestri a drysau, â gofal dros system archebu fewnol fawr a'i chronfa ddata, a dwi’n beiriannydd meddalwedd gyda’r gwasanaeth sifil nawr yn gweithio ar offer mewnol, gan gynnwys archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial helpu peirianwyr i weithio'n fwy effeithiol.
Archwiliwch gyfleoedd Rhwydwaith75Cydbwyso technoleg etifeddol, offer newydd a dilyniant gyrfa
Ar y campws, mae'r cyfleusterau wedi rhoi sylfaen gadarn mewn caledwedd a meddalwedd i fi. Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaethon ni ddefnyddio Raspberry Pi’s a Linux i fynd yn agosach at weld sut mae cyfrifiaduron yn gweithio y tu ôl i’r llen, ac maen nhw wedi ein galluogi i weithio gyda thechnolegau defnyddiol fel cronfeydd data a systemau menter etifeddol. Mae rhai o'r modiwlau dw i wedi'u mwynhau fwyaf wedi cynnwys mapio’r we a chyfrifiadureg yn seiliedig ar ddaearyddiaeth, adeiladu gwefannau gyda mapiau a throshaenu data fel llygredd, a agorodd faes o gyfrifiadura na fyddwn i erioed wedi ei ystyried fel arall. Mae gweithio gyda thechnolegau hŷn, mwy "etifeddol" ar y cwrs wedi fy helpu i ddeall y sylfeini y tu ôl i'r offer newydd rwy'n eu defnyddio yn fy swydd.
Dw i bellach yn fy mhedwaredd flwyddyn, ac yn y tymor byr dwi'n gobeithio cael dyrchafiad gyda fy nghyflogwr presennol a gwneud gradd Meistr o bosibl ar ôl i fi raddio, gyda chefnogaeth fy sefydliad yn ddelfrydol. Y sgiliau mwyaf dwi wedi'u datblygu yn PDC yw gwytnwch a gwerthfawrogiad o'r pethau sylfaenol rydych chi'n eu hennill trwy weithio gyda thechnolegau sefydledig sy'n dal i fod yn cael eu defnyddio’n eang mewn diwydiant. I unrhyw un sy'n ystyried cyfrifiadureg, ac yn enwedig Rhwydwaith75, fy nghyngor i i unrhyw un sydd o ddifri’ am gael swydd ar ôl graddio yw bod y llwybr hwn yn werth ei ddewis oherwydd bod y profiad gwaith rydych chi'n ei ennill ochr yn ochr â'r hanfodion yn rhy werthfawr i'w golli.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch?
Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da.