Sahani Witharana
O Sri Lanka i Dde Cymru: Adeiladu dyfodol ym maes Gwyddor Data
Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch
Fe wnes i adael PDC gyda gwell sgiliau delweddu data yn Power BI, sgiliau dwi bellach yn eu defnyddio bob dydd yn fy rôl yn y diwydiant taliadau.
Cwrs wedi'i adeiladu o amgylch dyfodol y diwydiant
Des i i PDC oherwydd y maes llafur. Roedd gwyddor data yn dal i fod yn bwnc cymharol newydd yn Sri Lanka yn 2020, ac ro’n i'n gwybod bod Deallusrwydd Artiffisial, dysgu peirianyddol, a rhwydweithiau niwral yn mynd i ddylanwadu’n fawr ar ddyfodol cyfrifiadureg. Roedd cefnogaeth cyn i fi gyrraedd hyd yn oed yr un mor bwysig - oherwydd COVID, doedd fy nghonfocasiwn ddim tan 2022, ond derbyniodd PDC FI ar sail fy nhrawsgrifiad ac IELTS, a gwnaethon nhw hyd yn oed gynnig ysgoloriaeth fach i fi tuag at ffioedd y cwrs.
Uchafbwynt y cwrs i fi oedd y traethawd hir terfynol, y gwnes i ei gwblhau mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru. Es i yn fy mlaen i ddatblygu dangosfwrdd oedd yn dadansoddi dogfennau PDF ac adnabod geiriau allweddol oedd yn gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Roedd gwneud prosiect yn y diwydiant go iawn ochr yn ochr ag astudio’n agoriad llygad ac fe roddodd syniad go iawn i fi o sut beth fyddai gweithio yn y maes.
Dewch o hyd i'ch cwrsOffer, technegau, a thîm wrth fy ochr
Roedd y modiwl yn datblygu dangosfwrdd a'r modiwl Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol ymhlith fy ffefrynnau, ac fe ges i fynediad am ddim i bob meddalwedd roedd ei hangen ar gyfer y cwrs cyfan - SAS, R, Python, ac Amazon Web Services yn eu plith. Roedd y llyfrgell a'r cyfleusterau cyfrifiadurol yn wych hefyd, gyda pheiriannau cyflym, rhyngrwyd cryf, ac amgylchedd diogel oedd yn golygu fy mod yn aml yn gallu aros tan un neu ddau o'r gloch y bore i orffen fy ngwaith. Roedd yn lle hamddenol, croesawgar i astudio, ac yn gweddu’n berffaith at fy anghenion i.
Fe wnes i adael PDC gyda gwell sgiliau delweddu data yn Power BI, sgiliau dwi bellach yn eu defnyddio bob dydd yn fy rôl yn y diwydiant taliadau, ochr yn ochr â thechnegau rhagweld a dadansoddi data nad o’n i erioed wedi dod ar eu traws cyn y cwrs. Fe wnes i hefyd greu ffrindiau oes - gan gynnwys gyda fy ffrind gorau, yr ydw i’n dal i weithio gydag ef yn yr un cwmni heddiw. Fy nghyngor i yw dod o hyd i'r hyn sydd o ddiddordeb i chi o fewn y pwnc, gwneud yn fawr o bob cyfle i ryngweithio â darlithwyr a diwydiant, a dechrau gwneud ceisiadau am swyddi cyn i'r cwrs ddod i ben - mae'r tîm gyrfaoedd yno i'ch helpu gyda'ch CV ac maen nhw'n gwneud gwir wahaniaeth.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch?
Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da.