Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i ffynnu ym myd y cyfryngau!
Cynnau’r gynneddf greadigol a dewis PDC
Dechreuodd fy angerdd dros faes y cyfryngau ym Mlwyddyn 6 pan ddes i ar draws iMovie ar iPad am y tro cyntaf. Ro’n i wrth fy modd yn arbrofi gyda'r trelars a'r offer golygu parod, a gweld fy syniadau’n dod yn fyw ar y sgrin. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol a thrwy fy mhynciau Safon Uwch, fe wnes i ymchwilio i wahanol agweddau ar y cyfryngau, a dyma arweiniodd fi at y cwrs hwn, achos mae’n cynnig bach o bopeth.
Dewisais PDC yn rhannol am ei lleoliad - roedd yn gyfleus iawn a minnau’n byw awr o daith o Gaerdydd - ond hefyd oherwydd y cyfleusterau gwych, o safon y diwydiant, a’r profiad ymarferol oedd ar gael. Er na fuodd modd i fi fynd i Ddiwrnod Agored, es i i Ddiwrnod Agored Clirio lle wnaeth Lesley, pennaeth sinema a ffilm, roi taith bersonol i fi o’r cyfleusterau. Roedd hynny’n ddigon i selio’r ddêl!
Dewch o hyd i'ch cwrsBriffiau diwydiant a phosibiliadau’r dyfodol
Hyd yn hyn, rwyf wir wedi mwynau’r modiwl briffiau cleientiaid, lle ry’n ni'n gweithio gyda chwmnïau go iawn. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio gydag Alacrity, busnes mentora newydd yng Nghymru, i greu ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Sgriptio yw fy hoff elfen – rwy’n mwynhau roi strwythur i fy syniadau, ac rwy’n gwybod y bydd yn ddefnyddiol yn fy ngyrfa.
Dydw i ddim yn gwbl sicr o union lwybr fy ngyrfa eto, ond diolch i PDC mae gen i’r sgiliau i archwilio amrywiaeth o rolau. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol? Manteisiwch ar bob cyfle. Rwy’n difaru ychydig na fues i’n fwy rhagweithiol yn fy mlwyddyn gyntaf, ond nawr rwy'n bachu ar bob cyfle i gymryd rhan. Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i ffynnu ym myd y cyfryngau!
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Ffilm a'r Cyfryngau?
Mae'r cyfryngau o'n cwmpas, o ffilmiau mawr a darlledu teledu i gyfryngau cymdeithasol a chrewyr cynnwys. Mae'r gweithwyr proffesiynol y tu ôl iddynt yn llunio'r straeon a welwn a sut rydym yn deall y byd.