Praveen

Dw i wedi byw ledled y byd, ond mae Caerdydd yn fwy addas i fy mhersonoliaeth.

Ffilm a'r Cyfryngau
ug-profile-student-praveen-film

Dw i wedi sefydlu cwmni cynhyrchu gyda'r ffrindiau nes i gyfarfod yn y brifysgol.


ug-profile-student-praveen-film-2

Er gwaethaf byw a theithio ledled y byd, dim ond ers ymweld â Chaerdydd y teimlai Praveen wirioneddol gartref. Roedd gan y brifddinas bopeth yr oedd ei angen arno mewn dinas, tra oedd y cefn gwlad o fewn pellter cerdded.

Yn ystod ei amser ar ein gradd BA (Anrh) Ffilm, dysgodd Praveen am nifer o agweddau ar wneud ffilmiau wrth weithio gydag offer o safon y diwydiant a meddalwedd ôl-gynhyrchu.

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE LLAWER O GWMNÏAU CYNHYRCHU MAWR O AMGYLCH CAERDYDD, SY’N CREU LLAWER O GYFLEOEDD I GWRDD Â GWEITHWYR PROFFESIYNOL YN Y DIWYDIANT.

Praveen

Myfyriwr Ffilm

Wrth gwblhau ei brosiect terfynol, Ejected, datblygodd Praveen y sgiliau creadigol, technegol a chydweithredol sydd eu hangen i ddod â chynhyrchiad ffilm yn fyw.

O brofiad ymarferol gydag offer proffesiynol i gyfleoedd i greu eich cynyrchiadau eich hun, mae ein gradd Ffilm yn rhoi'r sgiliau, hyder a'r mewnwelediad diwydiant i chi ddechrau eich taith mewn gwneud ffilmiau a dod â'ch syniadau creadigol i'r sgrin.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau?

Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.