Roedd geni ddisgwyliadau mawr o’r cwrs, ac mae wedi cyflawni’n union yr hyn roeddwn am ei gael ohono. Mae'r darlithwyr yn wych, yn gefnogol iawn, ac mae gan bob un faes gwahanol o ddiddordeb a gwybodaeth benodol.
Astudio Bioleg Bywyd Gwyllt ar ôl bywyd fel ceidwad sw
Mae Clare Wilkie o Fae Herne, Caint yn nhrydedd flwyddyn ein gradd Bioleg Bywyd Gwyllt Ryngwladol.
Fel myfyriwr hŷn, roedd Clare yn arfer gweithio fel ceidwad sŵ yn y Ganolfan Cadwraeth Rhywogaethau Prin yng Nghaint.
“Fel ceidwad sw, byddwn i’n meddwl am y rhywogaethau yn eu hamgylchedd naturiol, gan ddychmygu beth fydden nhw’n ei wneud, sut bydden nhw’n dewis ac yn hela eu hysglyfaeth, sut gallai pâr ddod o hyd i’w gilydd yn y gwyllt, heb sôn am yr hyn a oedd yn digwydd i’w gwneud nhw mor brin yn y lle cyntaf.
Yn y diwedd, roedd y chwilfrydedd yn drech na mi ac fe wnes i gofrestru ar y cwrs Bioleg Bywyd Gwyllt Ryngwladol i helpu i roi gwybodaeth i mi am fioleg bywyd gwyllt ar lefel academaidd, ac efallai hyd yn oed agor y drws i weithio yn amgylchedd naturiol rhai o’r rhywogaethau hynny ro’n i wedi dechrau teimlo mor angerddol yn eu cylch.
Roedd geni ddisgwyliadau mawr o’r cwrs, ac mae wedi cyflawni’n union yr hyn roeddwn am ei gael ohono. Mae'r darlithwyr yn wych, yn gefnogol iawn, ac mae gan bob un faes gwahanol o ddiddordeb a gwybodaeth benodol, sy'n rhoi ystod eang o gyngor arbenigol i'r myfyrwyr.
Gan mai'r cwrs hwn yw'r unig un o'i fath yn y DU, mae'n tueddu i ddenu myfyrwyr o'r un anian, pob un â yn teimlo’n angerddol am gadwraeth a bywyd gwyllt.
Dewch o hyd i'ch cwrsEnnill profiad o ymchwil bywyd gwyllt yn y byd go iawn
Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaethom deithio fel grŵp bach drwy dri biom gwahanol yn Ne Affrica. Cawsom brofiad o waith tracio anifeiliaid mawr, rhwydo adar, adnabod rhywogaethau, technegau arolygu llystyfiant a phoblogaeth bywyd gwyllt, trapiau camerâu, a chofnodi ymddygiad gydag ethogramau. Roedd llawer i’w wasgu i mewn i daith bedair wythnos, ac eto roedd y cwrs maes dwys hwn yn caniatáu i ni ennill nifer o sgiliau ymarferol ac mewn cynefinoedd amrywiol, rhywbeth nad oedd yn cael ei ddarparu gyda llawer o gyrsiau bioleg eraill. Yr uchafbwynt oedd gweld llew benyw a’i merch ifanc yn gorwedd yn y cysgod ddeuddydd cyn i ni adael am y DU – diweddglo perffaith i’r daith.
Yn yr ail flwyddyn, fe wnaethom gwblhau cydrannau morol a choedwigol y daith maes ecoleg drofannol. Roedd gan bawb eu hoff safle, ond y goedwig oedd fy ffefryn i. Tracio a gweld tarsieriaid yn eu hamgylchedd naturiol, gwylio crocodeiliaid dŵr heli (un o’r ffefrynnau hynny) yn torheulo wrth i ni deithio ar hyd Afon Kinabatangan, a chlywed synau trofannol y coedwigoedd drwy gydol y nos...gwireddu breuddwyd!
Yn ogystal, drwy gydol y tair blynedd, cafwyd teithiau maes addysgiadol a rhyngweithiol hefyd i ardaloedd gwarchodedig (e.e. SoDdGAau, ACA, GNLl) yn nhirwedd leol Cymru, gan ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o fywyd gwyllt lleol.
Roedd yn wych cael y cyfle o'r diwedd i ddefnyddio fy syniadau fy hun i ymchwilio a llunio prosiect o’r syniadau hynny, gyda chymorth goruchwylwyr arbenigol y brifysgol. Ar ôl gweithio gyda rhywogaethau mewn amgylchiadau caeth, roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar weithio gyda rhywogaethau tebyg mewn lleoliad mwy gwyllt.
Fe wnes i ymchwil yng Ngwarchodfa Anifeiliaid Mawr Selati yn Ne Affrica. Gyda'r defnydd cynyddol bwysig o eneteg mewn bioleg cadwraeth, fy nod oedd casglu a chymharu gwahanol fathau o samplau o gathfleiddiaid Affricanaidd er mwyn nodi dull addas o ddefnyddio dulliau anymwthiol o gasglu samplau.
Roedd fy mhrosiect yn cymharu ansawdd genetig meinwe, ysgarthion a blew llewod, gan ddod i’r casgliad mai gwallt oedd yr orau o'r samplau a gasglais. Yna, cysylltais y canfyddiadau hyn â dull newydd a greais i gael gafael ar wallt llewpardiaid drwy ddulliau anymwthiol.
Roedd dulliau maes yn cynnwys defnyddio system abwyd ar goeden, gan ddefnyddio tâp gludiog wedi’i osod yn ofalus a fyddai’n tynnu blew wrth i’r llewpard ddod am yr abwyd. Yn y dyddiau nesaf, llwyddais i gasglu’r blew hyn o’r system abwyd a’u storio, cyn dod â nhw yn ôl i labordai Prifysgol De Cymru ar gyfer profion DNA.
Yn y diwedd, rhoddodd y prosiect gyfle i mi roi fy ngwybodaeth a’m sgiliau ar waith mewn lleoliad naturiol. Rhoddodd gyfle i mi gael ymdeimlad da o waith labordy a gwaith maes annibynnol, yn ogystal â fy helpu i gyrraedd y nodau hynny! Ar ôl i mi raddio, rwy'n gobeithio symud ymlaen i raglen Meistr drwy Ymchwil, gan ddefnyddio geneteg i gefnogi dealltwriaeth o reoli gwrthdaro rhwng dyn a bywyd gwyllt."
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Gwyddoniaeth?
Archwiliwch ein hystod amrywiol o raddau gwyddoniaeth o Wyddorau Biolegol a Fforensig i Wyddorau Fferyllol, a chymerwch eich cam cyntaf tuag at yrfa mewn Meddygaeth gyda’n cwrs Gwyddorau Meddygol arloesol.