Ar ôl gweld y Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Trosedd a'r labordai gwyddoniaeth, ro’n i'n gwybod mai dyma beth ro’n i eisiau ei wneud.
Dychwelyd at addysg i astudio yn PDC
"Cyn dod i'r Brifysgol, roeddwn i'n fam ac yn cadw tŷ ac roedd fy ngŵr yn gweithio'n llawn amser. Gwnaeth fy ngŵr chwarae rhan fawr yn fy ysgogi i ddychwelyd at addysg. Ro’n i’n sôn lot am fynd nôl at addysg gan fy mod i’n teimlo nad o’n i wedi cyflawni'r hyn ro’n i eisiau ei wneud yn fy arddegau.
"Ges i fy mab cyntaf pan o’n i’n 17 oed a doeddwn i ddim wedi cael cyfle i barhau â fy addysg tan i fi gwrdd â fy ngŵr. Roedd gen i broblemau mawr o ran hyder oherwydd ro’n i wedi dioddef trais domestig difrifol mewn perthynas flaenorol ac fe wnaeth fy ngŵr fy helpu trwy hynny i gyd. Fe wnaeth i fi deimlo fy mod i'n werth rhywbeth eto.
"Ar ôl cwblhau Diploma Gwyddoniaeth Lefel 2 yng Ngholeg y Cymoedd, gofynnodd fy nhiwtoriaid i fi a o’n i erioed wedi ystyried mynd i’r brifysgol. A dweud y gwir, do’n i erioed wedi meddwl y byddwn i'n gallu mynd i'r brifysgol, ond roedd fy nhiwtoriaid yn teimlo y dylwn i fynd, felly gwnes i gofrestru i fynd i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol De Cymru. Ar ôl gweld y Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Trosedd a'r labordai gwyddoniaeth, ro’n i'n gwybod mai dyma beth ro’n i eisiau ei wneud, felly gwnes i gwrs Mynediad at Wyddoniaeth i sicrhau ’mod i’n ateb y gofynion derbyn.
"Un o'r pethau gwych am fod yn fyfyriwr aeddfed yw nad y’ch chi'n cael eich trin yn wahanol oherwydd eich oedran. Er bod y coleg yn gefnogol, roedd llawer o'r help ychwanegol wedi'i anelu at bobl dan 25 oed ac ro’n i'n 32 pan es i’n ôl i addysg.
"Mae’r tiwtoriaid yma yn gefnogol iawn, yn enwedig pan fo gan rywun fywyd prysur iawn fel fy un i, yn delio gydag apwyntiadau i'r plant ac ati. Os oes rhaid i fi golli unrhyw sesiynau ymarferol oherwydd problemau annisgwyl, mae cyfle i wneud un o'r sesiynau dal i fyny, gan eu bod yn ymwybodol bod pethau'n digwydd weithiau nad oes modd eu hosgoi. Er mwyn helpu gyda fy ngwaith academaidd, rwyf wedi mynychu gweithdai sgiliau astudio i helpu gyda sgiliau Mathemateg a TG. Mae darlithoedd yn cael eu rhoi ar-lein, sy’n helpu os ydych chi wedi eu colli, ond yn helpu hefyd gyda gwaith cwrs ac adolygu. Gallwch chi hefyd ofyn am gyfarfod un-wrth-un gyda’r tiwtoriaid i fynd trwy unrhyw broblemau rydych chi'n eu cael yn ystod eich astudiaethau.
"Er mwyn cydbwyso bywyd prifysgol a bywyd cartref mae'n rhaid i fi fod yn drefnus iawn a chadw at drefniadau i gyrraedd fy darlithoedd 9am – mae’n gallu bod yn rhuthr gwyllt mynd â’r plant i’r ysgol a chyrraedd fy narlithoedd yn brydlon! Rwy'n neilltuo nosweithiau penodol i wneud fy ngwaith academaidd a bob amser yn ceisio gwneud y gwaith cyn gynted ag y mae’n cael ei osod, er mwyn sicrhau bod gen i ddigon o amser.
Dewch o hyd i'ch cwrsCofleidio bywyd fel myfyriwr aeddfed a rhiant
"Mae fy mhlant yn falch iawn ohonof am fynd i'r brifysgol. Weithiau mae'n rhaid i fi golli rhai o'u gweithgareddau ysgol, ond maen nhw'n deall bod rheswm da dros hyn, ac mae fy ngŵr yn ceisio mynd pan na allaf i.
"I fi, mae'n hynod bwysig fy mod i’n fodel rôl da iddyn nhw. Ro’n i'n fam ifanc iawn, ac rwy'n ceisio fy ngorau i'w hysbrydoli i fynd ar lwybr gwahanol na’r un ddilynais i pan o’n i'n ifanc.
"Pan oedd fy mab hynaf yn yr ysgol, ro’n i arfer sôn wrtho fy mod i’n difaru na wnes i barhau ag addysg pan o’n i’n iau, ond bod fy nghwrs gwych yn fy ngwthio tuag at yrfa well yn y dyfodol. Mae e bellach yn astudio peirianneg yn y brifysgol, ac allwn i ddim bod yn fwy balch.
"I fenywod eraill sy'n ystyried ydyn nhw am ddychwelyd at addysg ai peidio, fy neges i yw ewch amdani. Byddwch chi wrth eich bodd, byddwch chi’n cael cymorth i gyflawni eich nodau, ac o fy mhrofiad i yn y maes Fforensig, mae lot mwy o groeso i fenywod nag y byddech chi efallai yn ei ddisgwyl."
Diddordeb mewn Gwyddoniaeth?
Archwiliwch ein hystod amrywiol o raddau gwyddoniaeth o Wyddorau Biolegol a Fforensig i Wyddorau Fferyllol, a chymerwch eich cam cyntaf tuag at yrfa mewn Meddygaeth gyda’n cwrs Gwyddorau Meddygol arloesol.