Mae fy mhrofiad gyda PDC wedi bod yn ymwneud â thwf. Dysgais am farchnata digidol – sgil doeddwn i ddim yn dda ynddi cyn dod i PDC.
Dewis PDC ar gyfer twf proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol marchnata medrus o Nigeria, penderfynais wella fy ngyrfa trwy radd mewn rheoli marchnata. Wrth ymchwilio i ysgol, roeddwn yn chwilio am un gyda’i gradd marchnata wedi’i hachredu gan y corff marchnata rhyngwladol, CIM. Fel ‘na, dwi’n graddio gyda gradd ac o bosib yn cael ardystiad y corff hwn yn y broses. A felly, daethais o hyd iddo ym PDC. Gwnes i gais, cefais fy nerbyn, symudais i’r DU, a dyna ddechrau fy stori.
Mae fy mhrofiad gyda PDC wedi bod yn ymwneud â thwf. Dygais am farchnata digidol – sgil doeddwn i ddim yn dda ynddi cyn dod i PDC – a darganfyddais hefyd sut i wneud rhai danteithion blasus o darddiad Cymreig. Dwi wrth fy modd ar goginio.
Dewch o hyd i'ch cwrsSgiliau ymarferol a hyder gyrfa
Galluogodd fy nghwrs fi i weithio gyda fy nghyn-gyflogwr, gan gymhwyso’r wybodaeth a gefais yn PDC mewn lleoliad gwaith cyfarwydd. Mae fy ngallu i gael effaith arnyn nhw gyda’r wybodaeth a ddysgais hyd hyn wedi bod yn werth chweil. Yn ystod y cyfnod hwn, dysgais sut i ddefnyddio Canva, meddalwedd dylunio creadigol sy’n eich galluogi i greu ystod eang o ddeunyddiau hysbysebu. Fel marchnatwr, mae gallu dod â’ch menter yn fyw trwy ddyluniadau rydych wedi eu gwneud yn brofiad boddhaol.
Wrth i mi baratoi i ailintegreiddio i’r diwydiant marchnata, mae’r cwrs wedi llwyddo i fy mharatoi ar gyfer hynny. Dwi wedi dysgu sgiliau cyflwyno ac mae’n fantais i mi. Mae fy nghyngor i fyfyrwyr posib yn syml: Os ydych chi eisiau bod â sylfaen lawn mewn marchnata ac yn gobeithio ei gael fel proffesiwn yn y dyfodol agos, byddai cael gradd mewn marchnata yn eich darparu â dyfodol addawol yn y maes hwn.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Marchnata a Hysbysebu?
O ddylunio ymgyrchoedd a brandio i seicoleg defnyddwyr a strategaeth ddigidol, mae ein graddau marchnata a hysbysebu yn archwilio sbectrwm llawn marchnata modern.