Sam Dunlop
Helpodd marchnata yn PDC i lansio fy ngyrfa gyda phrofiad ymarferol
Marchnata a Hysbysebu
Mae'r cwrs hwn wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau trefnu, meddwl strategol a datrys problemau.
Datblygu sgiliau sy'n barod ar yrfa mewn Marchnata
Dewisais astudio Marchnata oherwydd rwy’n hoffi’r agwedd greadigol ohono a sut mae'n chwarae i mewn i'r byd busnes.
Fel hyfforddai Network75, rwyf hefyd yn gweithio ym maes marchnata i gwmni tai cymdeithasol o'r enw Cardo Group. Rwy'n hoffi sut mae Network75 yn caniatáu imi gymhwyso fy astudiaethau i waith go iawn.
Gan fy mod yn lleol ac yn byw yng Nghaerffili, dewisais astudio ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd y lleoliad, ond hefyd oherwydd bod gan y cwrs Marchnata yn PDC dri achrediad ar gyfer cyrff proffesiynol.
Es i ddau Ddiwrnod Agored PDC. Roedd yn ddiddorol iawn. Fe wnes i gwrdd â chwpl o arweinwyr y cwrs, ac fe wnaethon ni weithgaredd adeiladu tîm yn cynnwys Lego! Roedd yn eithaf diddorol ac arloesol iawn.
Wrth ennill profiad proffesiynol yn gweithio yn Cardo Group, rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd i weithio o fewn PDC. Mae pobl o'r adran gerddoriaeth yn gofyn i mi eu helpu gyda'u marchnata cyfryngau cymdeithasol a dylunio asedau fel logos.
Mae'r cwrs Marchnata wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau trefnu, meddwl strategol a datrys problemau. Rwy'n hoffi arweinydd y cwrs Callum. Mae'n hwyl ac yn ddiddorol iawn. Rwy'n hoffi'r modiwlau hefyd, yn enwedig y rhai creadigol fel offer a thechnegau marchnata digidol.
Trwy gydol y cwrs rydw i wedi cydweithio ar lawer o brosiectau tîm. Rwyf hefyd wedi datblygu fy sgiliau rheoli digwyddiadau. Un o'n prosiectau tîm oedd bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i gynllunio digwyddiad Nadolig PDC. Aeth hynny'n dda iawn.
Rydym hefyd yn cael gweithio ar friffiau busnes lle rydyn ni i gyd yn datblygu cynllun marchnata ac yna bydd cwmnïau yn dewis yr un gorau. Mae'n eithaf cystadleuol.
Mae'r cyfleusterau yma yn PDC yn wych hefyd. Mae gennym fynediad at lwyfannau mewnwelediadau lle gallwch gael data go iawn ar gyfer eich aseiniadau. Rwy'n gweld hynny'n ddefnyddiol iawn.
Dewch o hyd i'ch cwrsMeddwl am y dyfodol
Pan fyddaf yn graddio, rydw i eisiau aros gyda y cwmni rwyf gyda nawr. Rwy'n hoffi'r manteision rydw i'n eu cael gyda nhw. Fy nod gyrfa yw bod yn rheolwr marchnata.
Fy nghyngor i rywun sy'n meddwl am astudio Marchnata yn y brifysgol yw edrych ar y modiwlau cyn i chi astudio... ac yn bendant i ddechrau aseiniadau mewn da bryd!
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Marchnata a Hysbysebu?
O ddylunio ymgyrchoedd a brandio i seicoleg defnyddwyr a strategaeth ddigidol, mae ein graddau marchnata a hysbysebu yn archwilio sbectrwm llawn marchnata modern.