Rwy'n cael gweithio gydag amrywiaeth o bobl ar lawer o brosiectau gwahanol.
Pam rwy'n mwynhau gweithio mewn peirianneg sifil
Y peth gorau am fy swydd yw nad oes dau ddiwrnod yr un peth. Rwy'n cael gweithio gydag amrywiaeth o bobl ar lawer o brosiectau gwahanol.
Mae Peirianneg Sifil yn ddiwydiant gwych i weithio ynddo. Mae'r cyflogau a'r cyfleoedd dilyniant yn wych, ac mae'n broffesiwn uchel ei barch.
Uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn yw ennill Peiriannydd Graddedig y Flwyddyn 2016 y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil.
Roedd Prifysgol De Cymru yn amgylchedd cefnogol i ddysgu ynddo. Roedd y darlithwyr a'r technegwyr bob amser wrth law i'ch helpu i gael y canlyniadau gorau posibl. Ni fyddai fy ngyrfa yn bosibl heb fy ngradd Peirianneg Sifil o Brifysgol De Cymru.
Diddordeb mewn Peirianneg?
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.