Bethany Jones

Graddedig mewn Peirianneg Fecanyddol

Mechanical Engineering graduate Bethany Jones smiling at camera in front of engineering equipment

Dewisais astudio ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd llwybr Network75


Roeddwn yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol pan ddaeth cwmni i mewn ac arddangos prosiect a oedd yn debyg i’r Myfyriwr Fformiwla.

Roedd y prosiect o ddiddordeb i mi ar unwaith ac roeddwn i eisiau dysgu'r holl elfennau ymarferol a "chael fy nerd ymlaen". Ar y pwynt hwn dechreuais feddwl o ddifrif am ddilyn gradd mewn peirianneg fecanyddol.

Dewisais astudio ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd llwybr Network75. Roedd y llwybr yn golygu y gallwn weithio mewn cwmni ac ennill gwerth pum mlynedd o brofiad wrth astudio a chael mynediad i fywyd campws.

Nid yn unig hynny, ond telir am fy holl ffioedd dysgu, a oedd yn fonws go iawn!