Fi oedd yr unig fenyw yno ond doedd dim ots un peth.
Bod yr unig fenyw ar leoliad peirianneg
Roedd meddwl am fod yn fenyw mewn diwydiant a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion fel awyrofod ychydig yn frawychus, ond dewisais ddilyn fy uchelgeisiau.
Ar ôl bron â chwblhau fy ngradd, gallaf ddweud heb oedi mai dyna oedd y penderfyniad cywir. Roedd gwneud y lleoliad gwaith yn British Airways wir yn cadarnhau hynny i mi.
Fi oedd yr unig fenyw yno ond doedd dim ots un peth - roedd y peirianwyr yn groesawgar ac yn barod i helpu, a chefais hwyl fawr wrth weithio ochr yn ochr â nhw.
Diolch i'r cwrs cynnal a chadw awyrennau a fy lleoliad yn British Airways, mae gen i gymaint o opsiynau gyrfa erbyn hyn.
Diddordeb mewn Peirianneg Awyrofod?
Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant, cyrsiau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol a mynediad at gyfleusterau arbenigol sy’n darparu mannau dysgu cyffrous, rydym yn rhoi’r llwyfan i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.