Rwy'n mwynhau pob elfen o’r gwaith o droi fy nyluniadau’n gynnyrch go iawn a chreu pethau allai fynd i’r afael â phroblemau cyffredin.
Datrys problem o’r byd go iawn ar gyfer prosiect blwyddyn olaf
Ar gyfer ei brosiect blwyddyn olaf, cynhyrchodd Edwin declyn awtomatig i fwydo cathod.
"Daeth y syniad o ffrind sydd â chathod ac sy'n eithaf annibynadwy o ran gofalu amdanyn nhw. Mae hi'n dipyn o hipi ac yn mynd bant yn aml ar benwythnosau. Felly dyma gynnig creu rhywbeth iddi fyddai'n edrych ar ôl ei chathod pan oedd hi bant.
Fi greodd y teclyn cyfan, o’r syniad i’w weithrediad, a bues i wrthi am 7 mis yn ei berffeithio. Roedd tipyn o waith adeiladu ynghlwm wrtho, heb sôn am yr holl elfennau mecanyddol a thrydanol. Mae ambell beth lled debyg eisoes ar y farchnad ond mae fy un i’n wahanol gan fod ganddo fe fodem GSM, fel sydd yn ein ffonau, felly rydych chi’n gallu anfon neges destun iddo i fwydo'r gath. Mae synhwyrydd ynddo fe hefyd, fydd yn anfon neges destun atoch chi pan fydd y bwyd yn prinhau.
Dewch o hyd i'ch cwrsTeimladau am astudio Peirianneg yn PDC
Yn ystod y cwrs, ro’n i'n ffodus i allu treulio blwyddyn allan yn y diwydiant gyda Renesas Electronics Corporation. Ro’n i wrth fy modd – yn gweddu’n llwyr i fi. Mae fy ngwaith fel peiriannydd ddengwaith yn well nag oedd e’r adeg hon llynedd. rydych chi'n dysgu cymaint mwy trwy wneud lleoliad na petaech chi ddim ond yn mynd i’r brifysgol.
Byddwn wrth fy modd yn mynd i faes dylunio cynnyrch ar ôl graddio. Rwy'n mwynhau pob elfen o’r gwaith o droi fy nyluniadau’n gynnyrch go iawn a chreu pethau allai fynd i’r afael â phroblemau cyffredin."
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Peirianneg?
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.