Santino Petrosillo

Ehangu rhagolygon gyrfa drwy ddysgu ymarferol

Peirianneg
Mechanical Engineering student Santino Petrosillo stands with their arms crossed while wearing a navy engineering coat in front of a red backdrop surrounded by industry equipment in an engineering workshop

Rwyf wedi cryfhau fy nghyflogadwyedd yn sylweddol, yn enwedig drwy feistroli meddalwedd fel Solid Works ac Ansys ar gyfer Dadansoddi Elfennau Gorffenedig.


Cyfuno damcaniaeth ag ymgysylltu a’r diwydiant

Fe ddewisais Beirianneg Fecanyddol yn PDC i gyfuno dysgu ymarferol ac ymgysylltu a’r diwydiant â gwybodaeth academaidd. Mae’r syniad o fod yn beiriannydd yn apelio’n fawr ataf, ac mae’r cwrs hon wedi fy helpu i ddeall technegau rheoli asedau a phrosesau gweithgynhyrchu. 

Trwy fy astudiaethau, rwyf wedi cryfhau fy nghyflogadwyedd yn sylweddol, yn enwedig drwy feistroli meddalwedd fel Solid Works ac Ansys ar gyfer Dadansoddi Elfennau Terfynol a Deinameg Hylifau Cyfrifiadurol. Rwyf wedi datblygu sgiliau datrys problemau a chydweithio ymhellach sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn rôl peirianneg.  

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE GWASANAETHAU CYMORTH PDC WEDI BOD YN ALLWEDDOL I MI, YN ENWEDIG Y RHAGLEN MENTORA.

Santino Petrosillo

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Targedau gyrfa a diwydiant dur

Mae gwasanaethau cymorth PDC wedi bod yn allweddol i mi, yn enwedig y rhaglen mentora sydd wedi rhoi cyfle i mi gysylltu â rhywun yn y diwydiant. Gan fy mod yn berson cymdeithasol, rwy’n argymell ymuno ag Cymdeithas Chwaraeon moduro, lle rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau sy’n rhannu’r un diddordebau â fi. 

Wrth edrych ymlaen rwy’n anelu at yrfa yn y diwydiant dur, lle bydd fy hyfforddiant mewn rheoli gweithrediadau o fudd mawr. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yw ymchwilio’n drylwyr i’ch cwrs dewisol cyn gwneud cais, sicrhau ei fod yn cyd-fynd a’ch nodau gyrfa.  

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Peirianneg?

Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.