Shubh Birari
Mae gwneud gradd Meistr yn PDC wedi fy helpu i sicrhau gyrfa mewn hedfanaeth
Peirianneg
Fe wnaeth PDC fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa trwy ei phynciau astudio, trafodaethau, prosiectau grŵp ac aseiniadau yn ystod fy ngradd Meistr.
Paratoi at yrfa yn y Brifysgol
Yn dilyn ei gwrs MSc Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth, cafodd Shubh Birari rôl yn RVL Aviation, gan reoli a chynorthwyo mewn storfeydd peirianneg a rheoli logisteg.
"Yn ogystal â'r cyfleusterau o safon fyd-eang a'r staff profiadol, mae lleoliad Prifysgol De Cymru (PDC) yn fuddiol iawn. Dyna un o'r rhesymau pam y dewisais astudio ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth yno. Fel myfyriwr hedfanaeth, mae cael cewri awyrofod/hedfanaeth blaenllaw fel GE, Zodiac Aerospace, British Airways Engineering, Boeing, Airbus a Rolls Royce yn agos at y Brifysgol yn ei gwneud yn haws cael profiad maes drwy interniaethau a lleoliadau gwaith.
Yn dilyn fy nghwrs, cefais rôl yn RVL Aviation. Mae fy swydd yn cynnwys rheoli a chynorthwyo mewn storfeydd peirianneg a rheoli logisteg. Rwyf wrth fy modd gyda fy mhenodiad yn y cwmni hedfan aml-arbenigedd, sydd ym maes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr. Nid oedd gennyf brofiad uniongyrchol mewn storfeydd peirianneg pan ddechreuais weithio yno. Roedd fy nghefndir mewn cynnal a chadw awyrennau. Fodd bynnag, fe wnaeth PDC fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa trwy ei phynciau astudio, trafodaethau, prosiectau grŵp ac aseiniadau yn ystod fy ngradd Meistr. Hefyd, peidiwch ag anghofio cyfraniad y tîm gyrfaoedd a staff PDC.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDewis astudio yng Nghymru
Dewisais astudio yng Nghymru, a symud o fy nghartref ym Mumbai, India. Y rheswm am hyn oedd bod y DU bob amser ar fy rhestr o lefydd i’w gweld wrth dyfu i fyny. Yn enwedig y cestyll Cymreig bendigedig a’r cefn gwlad gwyrddlas. Wrth chwilio am gwrs ôl-raddedig, daliodd y modiwlau a addysgwyd ar gwrs MSc Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth PDC fy sylw. Ar ôl ymdrin â rhai o'r pynciau (i raddau) yn fy ngradd baglor, roedd yn uwchraddiad perffaith ac yn teimlo ei fod wedi'i ddylunio'n arbennig i mi. Mae'r Brifysgol yn hyblyg, gan dderbyn myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn. Felly, dewisais ddechrau fy astudiaethau ym mis Chwefror.
Yn dilyn fy mhrofiad yn PDC, byddwn yn argymell y cwrs Meistr Peirianneg a Rheoli Hedfanaeth i fyfyrwyr sydd am archwilio a dysgu amryfal agweddau ar y gangen hon o Beirianneg Hedfanaeth.”
Dewch o hyd i'ch cwrsDiddordeb mewn Peirianneg?
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.