Y fantais o wneud y MSc hwn oedd y gallu i osod ac addasu eich terfynau amser eich hun ar gyfer pob modiwl, gan gynnig yr hyblygrwydd i gwblhau’r radd ar gyflymder sy’n gweddu i’ch amgylchiadau personol.
Fy nhaith i Tata Steel
Fy enw i yw Wayne Price; rwy’n gweithio i Tata Steel ym Mhort Talbot ac wedi bod yma ers 16 mlynedd. Fy swydd bresennol yw Peiriannydd Prosiect o fewn Prosiect Invictus yn Tata Steel Port Talbot, sef gweithrediad cynhyrchu dur drwy Ffwrnais Arc Drydanol ar y safle.
Ar ôl cwblhau fy BSc, y cam nesaf yn fy natblygiad oedd dilyn MSc – rhywbeth a oedd wedi’i drafod sawl gwaith mewn sgyrsiau un-i-un gyda’m rheolwr llinell. Roedd nifer o gydweithwyr eisoes yn astudio’r MSc mewn Peirianneg Broffesiynol, ac esbonion nhew pa mor hyblyg oedd y cwrs o ran cydbwyso gwaith â bywyd personol. O ystyried y gofynion sy’n dod gyda swydd fan bwysau uchel a theulu ifanc, doedd dull traddodiadol o gael amser rhydd i fynd i’r brifysgol ddim yn apelio ata i. Roedd yr hyblygrwydd a cynigiwyd gan y MSc mewn Peirianneg Broffesiynol yn ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer fy amgylchiadau.
Yn fy rôl o ddydd i ddydd, rwy’n dal dwy swydd o fewn Tata Steel ar hyn o bryd. Rwy’n dadgomisiynu’r Odynau Côc yn ddiogel, gan sicrhau bod pibelli’n cael eu datgysylltu a’u hatal yn unol â’r safonau peirianneg cywir, a bod popeth wedi’i gofnodi’n briodol. Yn ogystal, rwy’n rhan o raglen y Ffwrnais Arc Drydanol, lle rwy’n ymwneud â gosod craeniau uwchben sy’n gallu codi 500 tunnell o ddur tawdd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y dyluniad yn cydymffurfio â’r safonau peirianneg priodol, gwirionedd lluniadau peirianneg, a’r cynllunio a’r weithrediad o osod y craen gan ddefnyddio craen cropian 1600 tunnell, ymhlith cyfrifoldebau eraill.
Dewch o hyd i'ch cwrsCyfuno profiad ymarferol â rhagoriaeth academaidd
Ers dechrau fy swydd newydd fel Peiriannydd Prosiect, rwyf wedi gwneud llawer o ddarllen cefndirol ar wahanol safonau peirianneg. Mae’r rhain yn hollbwysig i sicrhau bod y craen codi capasiti uchel a ddefnyddir mewn gweithrediadau metel poeth yn cael ei ddylunio a’i weithgynhyrchu dan reolaethau llym. Mae’r wybodaeth hon wedi bod yn arbennig o berthnasol wrth baratoi manylebau dylunio a dogfennau tendro.
Un o’r prosiectau mwyaf diddorol rydw i wedi gweithio arno yw caffael a gosod y craeniau uwchben. Bydd y prosiect hwn yn y pen draw yn cwmpasu’r cylch bywyd cyfan – o ddylunio i weithgynhyrchu ac yna gosod. Yn ystod fy astudiaethau, fe arweiniais hefyd brosiect CapEX ar gyfer caffael, dylunio a gweithgynhyrchu cerbyd Oeri newydd gwerth sawl miliwn o bunnoedd, yn ogystal ag uwchraddio system falf a gweithredu falf.
Rwyf wedi bod yn ffodus i gael llawer o eiliadau proffesiynol balch. Mae’r rhain yn amrywio o gynllunio a gweithredu fy ngweithgaredd cynnal a chadw cyntaf, i reoli tasg gynnal a chadw gwerth £1 miliwn yn cynnwys caffael, dylunio, cynllunio, dyrannu tîm, a goruchwylio. Yn 2024, enillais statws Peiriannydd Corfforedig gyda’r Sefydliad Peirianneg Fecanyddol, ac ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, cefais radd Meistr mewn Peirianneg Broffesiynol.
Roedd cydbwyso gwaith, astudio a bywyd teuluol yn heriol ar adegau. Yn aml, roedd yn rhaid i mi drefnu amser penodol yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau i gyflawni'r dyddiadau cau. Un o fanteision yr MSc hwn oedd y gallu i osod a newid dyddiadau cau eich hun ar gyfer pob modiwl, gan gynnig yr hyblygrwydd i gwblhau’r radd ar gyflymder sy’n addas i’ch amgylchiadau personol.
Mae cwblhau’r MSc mewn Peirianneg Broffesiynol yn cynnig manteision proffesiynol sylweddol. Mae’n un o’r gofynion ar gyfer dod yn Beiriannydd Siartredig ac yn helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y gellir eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r gweithle. Gall gyflymu cynnydd yn yr yrfa ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol.
Roedd astudio yn y gweithle yn caniatáu i mi deilwra modiwlau i bynciau penodol a oedd yn berthnasol i’m swydd. Er enghraifft, fe wnes i ddefnyddio modiwl ar gyfathrebu i archwilio cyfathrebu llafar yng nghyd-destun Rheoli Newid a Diogelwch Prosesau—dwy agwedd hanfodol yn fy amgylchedd gwaith.
Rwy’n gweithio nawr tuag at statws Peiriannydd Siartredig gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Mae ennill yr MSc a symud ymlaen tuag at Siartiaeth yn cefnogi fy natblygiad proffesiynol parhaus drwy gyrsiau ychwanegol, darllen a chymwysterau. Mae aros yn gyfredol gyda gwybodaeth a thechnolegau presennol yn hollbwysig i’m gyrfa.
Mae’r MSc wedi fy helpu i ddatblygu lefel ddyfnach o feddwl beirniadol a dadansoddi, yn enwedig ym maes peirianneg a rheolaeth beirianegol. Mae’n dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at dwf personol a llwyddiant sefydliadol.
Un o brif fanteision yr MSc mewn Peirianneg Broffesiynol yw’r hyblygrwydd sydd ar gael. Gallwch osod eich amserlenni eich hun a’u haddasu i weddu i’ch amgylchiadau, gan ei wneud yn opsiwn hygyrch i’r rhai sydd â swyddi heriol neu ymrwymiadau teuluol.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Peirianneg?
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.