Astudiaethau Cwnsela a Therepiwtig
Mae cwnselwyr a seicotherapyddion yn ymarferwyr hyfforddedig sy'n gweithio gyda phobl i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol neu wella eu lles.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored
Dysgwch sut i hwyluso sefydlu perthynas o ymddiriedaeth gyda'ch cleient a sut i nodi ac archwilio patrymau cred ac ymddygiad yn eu rolau a'u perthnasoedd.
Dod o hyd i'ch cwrs
Dysgwch sgiliau cwnsela proffesiynol trwy wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol yn y cwrs BA Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig hwn. Gyda lleoliadau yn y byd go iawn a ffocws allweddol ar berthynas therapiwtig, hunanymwybyddiaeth, moeseg ac amrywiol arddulliau therapiwtig, byddwch yn barod ar gyfer gyrfa foddhaus mewn cwnsela.
Mae’r cwrs cwnsela a seicotherapi integreiddiol dwy flynedd hwn, sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn pwysleisio integreiddio theori, ymchwil, ymarfer therapiwtig, ac ymrwymiad i hunanymwybyddiaeth, i’ch helpu i ddatblygu i fod yn gwnselydd a seicotherapydd proffesiynol sy’n ddiogel, yn foesegol, yn wrthormesol, yn berthynol ac yn greadigol.
Mae’r cwrs MA mewn Seicotherapi Celf yn PDC, sy’n gwrs tair blynedd rhan-amser, yn rhoi’r hyfforddiant, y sgiliau a’r profiad clinigol sylfaenol i chi ddod yn Seicotherapydd Celf cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Bydd y cwrs yn helpu i wella eich potensial o ran cyflogadwyedd drwy wella eich sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â’ch helpu i baratoi ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ac academaidd pellach.
Ein cwrs MA mewn Therapi Cerdd yw'r unig gwrs dysgu cyfunol sy'n cael ei gynnal yn y DU. Mae wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch ac ehangu mynediad i'r proffesiwn Therapi Cerdd. Rydym am eich cefnogi i ddatblygu i fod yn Therapydd Cerdd sy'n gweddu i chi a'ch cleientiaid.
Mae'r cwrs MSc mewn Therapi Chwarae yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol yn ymwneud â therapi chwarae, gan dynnu ar brofiad a sgiliau therapyddion chwarae cymwys, yn ogystal â therapyddion creadigol eraill. Mae tîm y cwrs yn cymryd rhan weithredol mewn ymarfer clinigol, a gwaith ymchwil a chyhoeddi cysylltiedig.
Oeddech chi'n gwybod?
Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Cwnsela a Therapiwtig PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
Mae Proffesiynau Iechyd yn PDC yn ail yn y DU (Canllaw Prifysgol y Guardian 2026)
Oeddech chi'n gwybod?
Ar y Brig
Mae Proffesiynau Iechyd yn PDC ar y brig yn y DU o ran gwerth ychwanegol (Canllaw Prifysgol y Guardian 2026)
Canllaw Prifysgol y Guardian 2026Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Cwnsela a Therapiwtig PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)
Mae Proffesiynau Iechyd yn PDC yn ail yn y DU (Canllaw Prifysgol y Guardian 2026)
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Casnewydd
Dinas ar gynnydd, ac yn ei chanol, yn edrych dros yr Afon Wysg, yn un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Diwrnodau Agored i ddod