MA

Therapi Cerddoriaeth

Grymuso myfyrwyr i adnabod yr ymagweddau sy’n bwysig iddynt ac sy’n ystyrlon yng nghyd-destun eu bywydau a’u profiadau.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

Ein cwrs MA mewn Therapi Cerdd yw'r unig gwrs dysgu cyfunol sy'n cael ei gynnal yn y DU. Mae wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch ac ehangu mynediad i'r proffesiwn Therapi Cerdd. Rydym am eich cefnogi i ddatblygu i fod yn Therapydd Cerdd sy'n gweddu i chi a'ch cleientiaid.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs MA mewn Therapi Cerdd cyfunol, arloesol hwn ar gael i gerddorion o amrywiaeth o gefndiroedd sy’n dymuno dilyn y llwybr gyrfa hwn ochr yn ochr â gyrfaoedd portffolio, ymrwymiadau perfformio neu gyfrifoldebau gofalu.

Llwybrau Gyrfa

  • Therapydd Cerdd
  • Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion
  • Ymarferydd Iechyd Meddwl
  • Ymchwilydd
  • Perchennog Busnes / Entrepreneur

Y sgiliau a addysgir

  • Gweithgaredd Byrfyfyr Therapiwtig
  • Rhesymu Clinigol
  • Meddwl yn Feirniadol
  • Cyflogadwyedd
  • Gweithio Cydweithredol 

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Ehangu Mynediad i’r Proffesiwn

Yn PDC rydym yn ymrwymedig i ehangu mynediad i’r proffesiwn ac mae ymarfer hygyrch, cynhwysol wrth wraidd popeth a wnawn.

Datblygu eich Hunaniaeth Therapiwtig

Yn PDC nid ydym yn addysgu un maes penodol o therapi cerdd ond yn hytrach rydym yn eich cefnogi i ddatblygu eich hunaniaeth therapiwtig eich hun.

Dysgu Drwy Senarios yn y Byd Go Iawn

Rydym yn defnyddio materion ac astudiaethau achos yn y byd go iawn i gefnogi eich dysgu er mwyn canfod y ffordd orau i weithio gyda’ch cleientiaid.

Paratoi ar gyfer Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd

O’r cychwyn cyntaf rydym yn blaenoriaethu cyflogadwyedd a’r sgiliau a’r priodoleddau angenrheidiol i’ch galluogi i ddilyn y llwybr gyrfa sy’n mynd â’ch bryd.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae’r flwyddyn astudio gyntaf yn cyflwyno myfyrwyr i fodelau ymgysylltu â llesiant drwy gerddoriaeth, cyn symud ymlaen i archwilio ystod o fodelau therapi cerdd ac agweddau sylfaenol ar y broses therapiwtig. Datblygir sgiliau byrfyfyr clinigol cyn cymryd rhan mewn modiwl pwrpasol i ddatblygu sgiliau proffesiynol ar gyfer y profiadau yn ystod lleoliad.

Hybu Iechyd Drwy Gerddoriaeth
Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am ddulliau ataliol o ymchwilio i lesiant drwy gerddoriaeth. Byddant yn dylunio, yn darparu ac yn gwerthuso prosiect celfyddydau mewn iechyd yn eu cymuned leol.

Y Berthynas Therapiwtig mewn Therapi Cerdd
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno ystod o fodelau therapi cerdd ac agweddau sylfaenol ar y broses therapiwtig. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau byrfyfyr clinigol mewn dysgu cymhwysol a gweithredol.

Datblygu Ymarfer Proffesiynol mewn Therapi Cerdd
Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer lleoliadau therapi cerdd, gan gynnwys dilyn safonau proffesiynol, asesu risgiau a threfniadau diogelu. Byddant yn cysgodi therapydd cerdd am o leiaf 2 ddiwrnod, gan fyfyrio ar yr ymweliadau hyn.

Mae'r ail flwyddyn astudio yn cynnwys lleoliad ugain wythnos sydd wedi’i ymgorffori yn y modiwl Ymarfer Proffesiynol mewn Therapi Cerdd 1, wedi'i gefnogi gan y dulliau dysgu sy’n seiliedig ar broblemau sydd wedi'u cynnwys yn y modiwl Sgiliau Rhesymu Clinigol. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl Sgiliau Therapi Cerdd Cyfoes i wella eu repertoire o dechnegau a dulliau cerddorol i weithio gyda chleientiaid mewn ymarfer therapi cerdd.

Sgiliau Therapi Cerdd Cyfoes 

Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar sgiliau byrfyfyr clinigol y myfyrwyr ac yn cyflwyno dulliau cyfoes a ddefnyddir yn y proffesiwn, megis therapi cerdd derbyngar, ysgrifennu caneuon, defnyddio technoleg a mwy.

Sgiliau Rhesymu Clinigol 

Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau y bydd eu hangen arnynt i ymateb i achosion clinigol y maent yn ymwneud â nhw ar leoliad. Bydd myfyrwyr yn gweithio ar y cyd ac yn rhyngbroffesiynol i ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth.

Ymarfer Proffesiynol Therapi Cerdd 1 

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn lleoliad ugain wythnos lle y byddant yn datblygu eu hymarfer clinigol eu hunain drwy gymryd rhan mewn goruchwyliaeth glinigol ac ymarfer myfyriol. Mae hwn yn gyfle i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd o’r cwrs a datblygu hunaniaeth therapiwtig y myfyrwyr.

Mae'r drydedd flwyddyn yn cynnwys ail leoliad ugain wythnos mewn cyd-destun cyferbyniol sy’n cynyddu o ran cymhlethdod. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol ac o ddiddordeb i'w hunaniaeth therapiwtig esblygol. Daw’r flwyddyn i ben gyda myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sgiliau therapi cerdd uwch ac yn ystyried sut i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ar ôl cymhwyso.

Datblygu Sgiliau Ymchwil mewn Therapi Cerdd

Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol ac o ddiddordeb i'w hymarfer drwy lunio cynnig ymchwil manwl a chais am gymeradwyaeth foesegol.

Ymarfer Proffesiynol mewn Therapi Cerdd 2

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ail leoliad ugain wythnos sy’n cynyddu o ran cymhlethdod lle y byddant yn datblygu eu hymarfer clinigol eu hunain drwy gymryd rhan mewn goruchwyliaeth glinigol ac ymarfer myfyriol.

Sgiliau Therapi Cerdd Uwch a Chyflogadwyedd

Bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar ymarfer uwch mewn therapi cerdd i ddatblygu sgiliau clinigol ymhellach. Bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant diogelu Lefel 3 i’w paratoi ymhellach i weithio a byddant yn defnyddio egwyddorion dysgu’n seiliedig ar her i wella eu cyflogadwyedd.

Wedi'i achredu gan HCPC

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Mae gofynion y cwrs Therapi Cerdd a'r proffesiwn Therapi Cerdd yn gofyn i chi ddangos lefel addas o brofiad bywyd ac aeddfedrwydd.

Fel arfer bydd angen gradd israddedig mewn maes astudio perthnasol, cymhwyster proffesiynol cyfatebol, neu brofiad helaeth mewn maes cysylltiedig, ynghyd â thystiolaeth o brofiad sylweddol o ymarfer cerddorol, gan gynnwys dod i gysylltiad â cherddoriaeth a sgil wrth ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau cerddoriaeth. Mae gennym agenda ehangu mynediad sy’n golygu y gallwn fapio profiadau yn erbyn gofynion mynediad os nad oes gennych radd israddedig – rydym yn croesawu sgyrsiau am y llwybr mynediad hwn.

Rhaid i ymgeiswyr allu perfformio ar eu prif offeryn neu lais i safon uchel. Nid oes angen i chi fod wedi cwblhau unrhyw arholiadau ffurfiol ar eich offeryn(nau). Nid yw darllen nodiant cerddorol yn ofyniad ar yr hyfforddiant hwn. Rydym yn gwerthfawrogi profiad byw, cerddoroldeb a phrofiadau cerddorol amrywiol ar yr hyfforddiant hwn, gan gydnabod y bydd llawer o gerddorion o gefndiroedd eclectig a fydd yn dod â chyfoeth a dirnadaeth i’r proffesiwn a’r gweithlu.

Dyddiadau cyfweld 2025:

  • 12 Chwefror 2025
  • 25 Mawrth 2025
  • 6 Mai 2025
  • 10 Mehefin 2025
  • 14 Gorffennaf 2025
  • 18 Awst 2025

Gofynion Ychwanegol:

Bydd angen i chi lanlwytho 2 eirda gyda'ch cais, a dylai un ohonynt fod yn academaidd, os yn bosibl, gyda'r llall yn ymwneud â'ch profiadau cerddorol. Rhaid i’r geirda fod ar bapur pennawd neu gall y canolwr ei anfon yn uniongyrchol o gyfeiriad e-bost proffesiynol/gwaith i [email protected]

Bydd angen i chi hefyd uwchlwytho ffilm ohonoch yn perfformio gyda'ch cais. Hoffem weld ciplun cerddorol cyfredol ohonoch. Bydd croeso i ffilmiau Youtube, recordiadau sain, perfformiadau wedi’u ffilmio o unrhyw fath. Mae'n bwysig ein bod yn gallu clywed eich rhan yn glir os yw'n berfformiad grŵp/band. Dylech ddangos bod gennych o leiaf un prif offeryn ac o leiaf un arall yr ydych yn gymwys arno. Yn ddelfrydol, hoffem weld rhywfaint o dystiolaeth o sgil ar offeryn cysylltiedig fel gitâr neu offeryn llinynnol tebyg, a bysellfwrdd/piano, os nad yw un o'r rhain yn brif offeryn i chi. Mae defnyddio llais hefyd yn bwysig mewn therapi cerddoriaeth, felly mae croeso i chi rannu unrhyw enghreifftiau o ddefnyddio'ch llais yn gerddorol. Nid oes angen i hyn fod yn ganu ffurfiol neu glasurol.

Trwy eich cais ac mewn cyfweliad, byddwn yn chwilio am brofiad ymarferol sylweddol (gwirfoddol neu gyflogedig) mewn lleoliad perthnasol, neu gyda chleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth, i ddangos eich bod yn barod i weithio gydag ystod o grwpiau cleientiaid. Gallai hyn gynnwys profiadau personol neu broffesiynol a gall gynnwys gweithio'n gerddorol neu beidio. Byddwch yn barod i drafod enghreifftiau yn y cyfweliad o'ch profiadau o gysylltu ag eraill.

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Rhaid i fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt yswiriant indemniad proffesiynol yn ei le drwy gydol eu hastudiaethau.

Cost: £45 -£75 y flwyddyn

Bydd y gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad a'r opsiynau teithio

Mae'r gost fesul sesiwn am o leiaf 10 sesiwn y flwyddyn academaidd.

Cyfanswm cost hyn fydd tua £200-£500 y flwyddyn academaidd.

Mae ein corff proffesiynol (British Association for Music Therapy) yn cynnig cyfradd myfyriwr sy’n eich galluogi i gael mynediad at y rhwydwaith proffesiynol gwerthfawr hwn a chyfleoedd cysylltiedig.

Cost: £55

Bydd angen i chi gael mynediad i gamera neu ddyfais i recordio eich gwaith ar leoliad. Gall hwn gael ei brydlesu, ei rentu neu ei brynu ac efallai y bydd gan rai lleoliadau offer y gallwch ei fenthyg/defnyddio.

Cost: Yn amrywio

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Cyflwynir y cwrs MA mewn Therapi Cerdd fel cwricwlwm dysgu cyfunol. Mae hyn yn golygu y byddwch ar y campws bob pythefnos am ddiwrnod a fydd yn llawn gweithgareddau ymarferol a thrafodaethau. Darperir deunyddiau ar-lein mewn amrywiaeth o fformatau, a bydd angen i chi eu darllen cyn y diwrnodau ar y campws.

Mae’r asesiadau’n amrywio o ran math, gyda rhai yn cynnig dewis o aseiniad i fyfyrwyr fel y gallwch ddewis yr un sy’n gweddu orau i’ch hoff arddull cyflwyno. Mae rhai traethodau ysgrifenedig, cyflwyniadau, asesiadau cerddorol ymarferol a phortffolios o dystiolaeth o'ch dysgu.  

Staff addysgu

Mae’r holl staff addysgu craidd yn Therapyddion Cerdd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal (HCPC)

  • Dr Liz Coombes, Arweinydd y Cwrs, sy’n arbenigo mewn dysgu’n seiliedig ar her ac ymarfer proffesiynol. 
  • Dr Beth Pickard, Uwch Ddarlithydd, sy’n arbenigwr mewn astudiaethau anabledd ac ymarfer gwrth-ormesol. 

Mae gennym hefyd ystod o siaradwyr a darlithwyr gwadd er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr elwa o ystod eang o brofiadau o’r DU a thu hwnt.

Lleoliadau

Mae lleoliadau gwaith yn cael eu trefnu ym mhob blwyddyn astudio academaidd.  Ym Mlwyddyn 1, yn ogystal â phrosiect celfyddydau mewn iechyd, cynhelir ymweliadau cyd-destunol â therapyddion cerdd fel bod myfyrwyr yn deall sut y mae therapi cerdd yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol.  Ym Mlynyddoedd 2 a 3 bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith therapi cerdd dan oruchwyliaeth i ystod o grwpiau cleientiaid.  Mae ansawdd y lleoliadau’n cael eu sicrhau gan ein hadran lleoliadau er mwyn sicrhau bod polisïau perthnasol yn eu lle a gall y lleoliad ddarparu'r hyn sydd ei angen ar ein myfyrwyr.

Cyfleusterau

Mae gennym ddau ofod therapi cerdd deubwrpas ar Gampws Casnewydd PDC, lle mae gan fyfyrwyr fynediad i ystod eang o offerynnau gan gynnwys nifer o bianos, gitarau, offerynnau taro wedi’u tiwnio a di-draw.  Mae rhywfaint o’r addysgu grŵp cyfan yn digwydd mewn mannau addysgu cyfagos, ac yn aml cynhelir gweithgareddau ymarferol, chwarae rôl neu weithgareddau mewn grwpiau yn y gofod therapi cerdd pwrpasol.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i'r llyfrgell ffisegol ar y campws yn ogystal â'i holl adnoddau digidol.  Mae'r cwrs yn gweithio'n agos gyda Sgiliau Astudio PDC i gynnal sesiynau sefydlu i fyfyrwyr i'r gwasanaeth hwn ac mae'r cwrs yn argymell yn gryf y dylai myfyrwyr fanteisio arno yn ystod eu hastudiaethau. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ôl graddio o'r cwrs hwn mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i'r HCPC i gofrestru fel therapydd cerdd. Mae hyn yn eu cyflwyno i ystod o yrfaoedd posibl. Mae lefelau uchel iawn o raddedigion yn cael swyddi ar ôl dilyn y cwrs, ac mae cyn-fyfyrwyr PDC yn gweithio mewn ysgolion, yn y GIG, i elusennau, yn gwneud gwaith prosiect i awdurdodau lleol yn ogystal â sefydlu eu busnesau eu hunain.

Mae yna gyfleoedd ledled y DU yn y maes therapi cerdd, felly p’un a ydych am aros yn lleol neu fentro i ran arall o’r DU, mae llu o bosibiliadau.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae myfyrwyr yn symud ymlaen i ystod eang o rolau a llwybrau gyrfa yn dilyn eu hastudiaethau yn PDC. Mae graddedigion diweddar wedi symud ymlaen i astudio ar gyfer Doethuriaeth, i sefydlu eu busnesau eu hunain, i swyddi therapi cerdd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, i weithio i elusennau neu sefydliadau neu i greu rolau o fewn sefydliadau eraill. Mae rhai myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarfer sy'n gysylltiedig â therapi cerdd o fewn rolau eraill fel gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, ymarferwyr iechyd meddwl, ymarferwyr llesiant. Mae rhai yn cyfuno ymarfer celfyddydau mewn iechyd, therapi cerdd a pherfformio mewn gyrfa bortffolio lwyddiannus.  

 

Cymorth gyrfaoedd

Mae tîm y cwrs yn gweithio gyda thimau Gyrfaoedd a Menter PDC i sicrhau bod y myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i lansio eu gyrfaoedd proffesiynol, boed hynny drwy wneud cais a pharatoi am gyfweliad, gwneud cais am gyllid busnes neu sefydlu eu hun fel gweithiwr llawrydd.  Mae cyn-fyfyrwyr y rhaglen yn ogystal â chydweithwyr lleol a chenedlaethol hefyd yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o ystyriaethau cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth yn y proffesiwn.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.