Peirianneg Ôl-raddedig yn PDC
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau peirianneg ôl-raddedig, ar draws peirianneg sifil, yr amgylchedd adeiledig, peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol ac electronig a pheirianneg awyrennol.
Graddau STEM
Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant, cyrsiau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol a mynediad at gyfleusterau arbenigol o safon diwydiant sy’n darparu mannau dysgu cyffrous, rydym yn rhoi’r llwyfan ichi ragori yn eich gyrfa ddewisol.
CYFLEUSTERAU PEIRIANNEG SAFON DIWYDIANT
Yn PDC, bydd gennych fynediad ymarferol i'n cyfleusterau peirianneg pwrpasol o safon diwydiant. Mae hyn yn cynnwys ein Canolfan Awyrofod ar y campws, sy'n gartref i'w hawyrennau ei hun, cyfres o gyfleusterau hyfforddi ymarferol a gymeradwywyd gan y diwydiant awyrofod, a labordai electroneg wedi'u hategu gan dechnolegau Renesas sy'n arwain y byd.
Mae ein labordai peirianneg sifil a mecanyddol wedi'u cyfarparu â'r peiriannau rheoli a chymorth cyfrifiadur diweddaraf.
Mae graddio gydag achrediad yn dangos eich bod wedi cael eich addysgu i'r safon uchaf sy'n berthnasol i'r diwydiant a chaiff hyn ei gydnabod yn aml gan gyflogwyr, gan roi mantais gystadleuol i chi wrth ymuno â'r farchnad swyddi.