Gwneud y mwyaf o’ch arian
Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau o ran rheoli eich arian, ond mae PDC yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
Cymorth Costau Byw Bywyd Myfyrwyr/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-money-and-finance-placeholder.jpg)
Rydyn ni yma i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, gan gynnwys cyngor ac awgrymiadau, i'ch helpu i deimlo bod gennych reolaeth dros eich arian.
Rydyn ni am i chi deimlo wedi'ch grymuso fel y gallwch chi fwynhau'ch amser yn PDC cymaint â phosib heb i straen ariannol effeithio ar eich profiad. P’un a oes angen cyngor arnoch ar ariannu eich astudiaethau, gwybodaeth am y grantiau a’r bwrsariaethau sydd ar gael, cymorth gyda dyled, neu awgrymiadau ar gyllidebu rheolaidd – rydym yma i helpu.

Enillwch wrth ddysgu
Mae PDC yma i'ch helpu wrth i chi chwilio am y rôl ran-amser berffaith sy'n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau a'ch astudiaethau.
dysgu mwy