Crëwyr Cynnwys Pdc

Diwrnod ym mywyd myfyriwr gwyddorau meddygol

Treuliwch ddiwrnod gyda Jade, myfyrwraig Gwyddorau Meddygol PDC, wrth iddi rannu sut mae'n jyglo ei hastudiaethau â chymdeithasu a gwneud y gorau o fywyd prifysgol.

Crëwyr Cynnwys Pdc Bywyd Myfyrwyr
A photo of student content creator, Jade, sitting on a picnic bench with festoon lights on in the backrgound.

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mae pob diwrnod yn llawn gweithgareddau sy'n fy herio yn academaidd ac yn bersonol. Gall cydbwyso fy astudiaethau, iechyd a bywyd cymdeithasol fod yn heriol, ond rwyf wedi dysgu beth sy'n gweithio i mi er mwyn bod yn gynhyrchiol. Dyma gipolwg ar ddiwrnod arferol yn fy mywyd, o'r eiliad rwy'n deffro i pan fydd fy mhen yn taro'r gobennydd eto.

Dechreuodd fy niwrnod yn gynnar, tua 7am. Fe wnes i ddechrau pethau gyda thaith i'r gampfa. Rwy'n gweld bod gweithgarwch corfforol yn rhoi'r gwytnwch sydd ei angen arnaf i wynebu beth bynnag sy'n codi yn ddiweddarach. Ar ôl hynny, cymerais gawod adfywiol a thanio fy hun gyda brecwast maethlon. Uwd cynnes ar thema Nadolig gyda siocled, menyn pysgnau a sbeisys.


Cerddais draw i'm darlith foreol yng Nghaerdydd a ddechreuodd am 10am. Rwy'n byw mewn fflat preifat yng nghanol y ddinas felly mae'n hynod gyfleus gan fod popeth sydd ei angen arnaf gerllaw. Mae'r daith gerdded i'r campws hyd yn oed yn llai na 40 munud. Ar y teithiau cerdded hyn rwy'n tueddu i ddal i fyny gyda fy nheulu dros y ffôn neu wrando ar gerddoriaeth i baratoi'n feddyliol i ddysgu. Ar ddiwrnodau pan fydd angen i mi deithio ymhellach i gampws Prifysgol De Cymru yng Nglyn-taf, mae fy ffrind sy'n gyrru yn fy nghasglu - mae'n werth y byd!

Mae fy nghwrs yn cynnwys cymysgedd o waith theori ac ymarferol, ac un o'r agweddau mwyaf cyffrous yw'r modiwl dyrannu corff marw dynol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn rhan o fy mhrosiect blwyddyn olaf, lle rydym yn nodi achos marwolaeth drwy adroddiadau patholeg. Grêt, yn tydi? Heddiw, cefais ddarlith rhwng 10am a 12pm a sesiwn ymarferol tan 5pm.

Cyn y sesiwn ymarferol, es i gaffi gyda ffrind o’r cwrs. Fe wnaethon ni ddal i fyny ar bopeth o'n haseiniadau a'n cynlluniau gwyliau. Mae'r eiliadau hyn yn seibiant adfywiol o astudio ac yn fy ngalluogi i ymlacio fy mhen sy’n gorfeddwl.

Rwy'n credu mai un o'r rhannau gorau o fywyd prifysgol yw'r bobl rydych chi'n cwrdd â nhw. Mae fy ffrindiau o’r cwrs wedi dod yn ffrindiau da, ac ar ddiwrnodau eraill rydym yn tueddu i gwrdd, cael cinio, a mynd i grwydro yn y car. Dwi hefyd wedi gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd, o lefydd fel y Swistir a Kenya, a dwi'n eu gweld yn aml. Mae'r amrywiaeth yn gwneud pob sgwrs yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd am eraill a fi fy hun.

Yn y sesiwn ymarferol cefais gyfle i dorri ardal penelin y corff marw i archwilio'r cydrannau fel y cyhyrau! Mae'n brofiad heriol yn feddyliol, ond mae'r dysgu ymarferol yn amhrisiadwy.

Ar ôl fy niwrnod prysur o ddarlithoedd a gwaith ymarferol, fe wnes i ymlacio drwy fynd am dro i'r archfarchnad i brynu bwyd angenrheidiol cyn mentro i ddathliad pen-blwydd ffrind. Dwi'n gwybod, diwrnod prysur iawn, ond roedd yn ffordd wych o ymlacio. Mae'r digwyddiadau cymdeithasol hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd amser i mi fy hun. Maen nhw nid yn unig yn fy helpu i ailwefru ond hefyd yn gwneud bywyd prifysgol yn fwy pleserus.


Mae hwnnw'n ddiwrnod arferol yn fy mywyd - yn llawn ac yn amrywiol, ond yn hynod gynhyrchiol a boddhaus. Gall cydbwyso'r cyfan fod yn llethol, ond gyda'r meddylfryd cywir ac ychydig o gynllunio, mae'r cyfan yn gyraeddadwy.