Dad-drefedigaethu Technoleg Dysgu
“Leading the Way” - Yr Athro John Traxler, Cadeirydd UNESCO
Virtually the Same for Everyone
Prosiect sy'n ystyried arferion i gefnogi Dad-drefedigaethu’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) traddodiadol
Gan adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol De Cymru (PDC) i’w chorff amrywiol o fyfyrwyr, mae un o’n prosiectau diweddaraf yn cynnwys y tîm yn archwilio’r broses o ddad-drefedigaethu ein hamgylcheddau digidol, gweithgaredd parhaus sy’n nodi ac yn herio’r rhagfarnau sy’n sail i lwyfannau digidol, yn ogystal ag archwilio ffyrdd o’u gwneud yn fwy cynhwysol ac yn hygyrch i grwpiau amrywiol.
Mewn sgwrs â Chadeirydd UNESCO, yr Athro John Traxler, mae tîm DEE PDC yn falch o arwain y ffordd yn y maes hwn, gan gyd-ddylunio ein templedi modiwl gyda myfyrwyr, cynhyrchu adnoddau arweiniad i gydweithwyr, a chodi proffil y pwnc pwysig hwn, gan gyflwyno yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu PDC a Chynhadledd y Gymdeithas Technoleg Dysgu (ALT-C).
Lawrlwythwch ein hadnodd Dad-drefedigaethu’r Amgylchedd Dysgu Digidol: Cyngor ar gyfer Addysg Gynhwysol (mae’r ddogfen hon © 2023 gan CELT Prifysgol De Cymru wedi’i thrwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0).