Cymdeithas Lofaol
1 Rhagfyr 2016 i 13 Ebrill 2017
Mae’r arddangosfa hon yn ystyried, dathlu a choffáu agweddau ar faes glo de Cymru.
Mae'n cynnwys gwaith artistiaid newydd i’r ardal a rhai a anwyd yn yr ardal, yn amrywio o'r peintwyr Jack Crabtree a Josef Herman, Ken Elias ac Ernest Zobole i'r ffotograffwyr Levi Ladd, I C Rapoport, Ray Klimek ac Anthony Stokes.
Mae gan yr arddangosfa tri chyd-destun hanesyddol. Yn gyntaf, mae’n codi o arddangosfa 'Yn Ein Delw Ein Hunain? Canrif o Ddelweddu a Delweddau o Dde Cymru: 1910-2013/In Our Image? A Century of Imaging of and in South Wales: 1910-2013' a gynhaliwyd yn 2013-14 a oedd yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Prifysgol Morgannwg a’i haileni’n Brifysgol De Cymru. Gan mlynedd yn ôl Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Mynwy oedd ein prifysgol gyda’i rhaglenni addysg a hyfforddiant yn cychwyn yn Nhŷ Crawshay, yr union adeilad sydd wedi bod yn gartref i oriel gelf y brifysgol, Oriel y Bont, ers iddi gael ei chreu yn 1983.
Yn ail, mae ‘Cymdeithas Lofaol/Coal Society' yn gynnyrch cydweithio cadarnhaol rhwng Coleg Wolfson Caergrawnt a’u harddangosfa 'Valley of Vision' yr ydyn ni wedi benthyg chwe phaentiad iddi (gan Jack Crabtree, Vincent Evans, Josef Herman, Denys Short ac Ernest Zobole).
Yn olaf, mae 'Cymdeithas Lofaol/Coal Society' a 'Valley of Vision' yn deillio o raglen deledu BBC Cymru 'Visions of the Valleys' yr oeddwn i a Kim Howells ynghlwm wrthi, yntau’n gyflwynydd a minnau’n ymchwilydd arbenigol. Fe’i darlledwyd gyntaf yn gynnar yn 2015 ar BBC Un Cymru a BBC Four.
Kim Howells, cyn AS Pontypridd
Fel yr oedd 'Visions of the Valleys', mae arddangosfa Caergrawnt yn canolbwyntio ar ddelweddau o Gymoedd de Cymru fel ardal lofaol, gan felly barhau â hen ystrydeb gyfarwydd. Mae ‘Cymdeithas Lofaol/Coal Society', er nad yw’n hollgynhwysfawr o bell ffordd, yn cyflwyno Cymoedd de Cymru fel ardal a gafodd ei hadeiladu gan lo, ond sy’n llawer mwy na hynny. Yn hwyr yn y 1920au creodd de Cymru Ronald Lawrence yma (Pontypridd) ac Ernest Zobole yn y Rhondda tua’r gogledd; yn hwyr yn y 1930au John Selway o Abertyleri i’r dwyrain o yma; ac yng nghanol y 1940au Ken Elias o Gwm Uchaf Nedd. Fel mae eu gwaith nhw’n ei ddangos, mae ‘Cymdeithas Lofaol/Coal Society’ yn cynnwys mwy na gwrthrychau mwyngloddio amlwg ac mae eu delweddau’n fwy bywiog a lliwgar na’r paled tywyll, tawel ystrydebol. Cymharer 'Ystrad Rhondda' Zobole o’r 1950au â’i 'Interior no 3' o’r 1980au, er enghraifft.
Yn gronolegol, ffotograffiaeth yw dechrau a diwedd yr arddangosfa - o waith y Cymro Levi Ladd a’i lowyr a phlismyn yn 1910, drwy Aberfan gan I C ‘Chuck’ Rapport o’r New Yorker yn 1966, i waith yr artist o Lundain, Hilary Powel, 'Last miners of South Wales' yn 2016. Ymhlith ffotograffwyr eraill a gynrychiolir mae Paul Cabuts o Ynyshir, Ray Klimek o Pennsylvania, Ronald Lawrence, Paul Reas, Paul Seawright ac Anthony Stokes. Mae’r cerflunwaith sy’n cael ei arddangos yn cynnwys penddelwau gan Robert Thomas a aned yn y Rhondda (o Aneurin Bevan a’r bariton Roderick Jones) a gydosodiad gan David Garner, o Lynebwy, a lle tân gan un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Teresa Mills, sy’n dod o Abercynon.
Mae Prifysgol De Cymru yn ddiolchgar i Dr Owen Edwards, curadur ‘Valley of Vision’ a chydweithwyr o Goleg Wolfson Caergrawnt ac i rai sydd wedi benthyg darnau: Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn Ystradgynlais a’r artist Hilary Powell, yr artist Gwyn Evans a’r hanesydd David Maddox, yr artist Ken Elias a’r ffotograffydd I C Rapoport.