Alumni

Buddion

Gweld pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer bywyd ar ôl graddio. O gymorth gyrfa a gostyngiadau ôl-raddedig, i fynediad at wasanaethau a chyfleusterau.

Alumni Cysylltwch â Ni
Three students dressed in graduation robes and graduation caps smile and pose in front of the red dragon outside Newport's ICC

TEULU PDC

Fel rhan o Deulu PDC, rydych chi mewn cymuned fywiog o fwy na 250,000 o raddedigion anhygoel o bob rhan o'r byd.

Rydym yn ffodus i gael cyn-fyfyrwyr mor amrywiol, o wneuthurwyr ffilm, cyfreithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i hyfforddwyr chwaraeon rhyngwladol, digrifwyr enwog, a pherchnogion busnesau bach.

Rydym wrth ein bodd yn cynnwys ein graddedigion a hyrwyddo eich gwaith caled, boed yn ein cylchlythyr chwarterol, ein gwefan neu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.


Darganfyddwch eich potensial

  • Cyngor gyrfa, cyfleoedd gwaith, interniaethau, cyllid a phopeth yn y canol.

  • Llawrydd, rhedeg eich busnes eich hun neu feddwl am y peth? Mae gan ein tîm menter profiadol yr holl offer sydd eu hangen arnoch i'w wneud yn llwyddiant.

  • Mae pawb wrth eu bodd â gostyngiad ac fel myfyriwr graddedig PDC efallai mae gennych fynediad at arian oddi ar astudiaethau ôl-raddedig, cyrsiau hyfforddi proffesiynol a mwy.

  • Fel myfyriwr graddedig o Brifysgol De Cymru mae gennych fynediad am ddim i adnoddau dysgu ac aelodaeth o'r llyfrgell.


YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU

Fel un a raddiodd o Brifysgol De Cymru cewch fynediad at amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i'ch helpu yn eich astudiaethau pellach. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ostyngiad y cyn-fyfyrwyr a bwrsariaethau penodol isod.