Gladys Sambo

Graddedig MA mewn Gweinyddu Busnes

Straeon Alumni
Alumni Gladys poses for a graduation photo in front of the red dragon at ICC Newport

Mae menywod fel Michelle Obama yn fy ysbrydoli cymaint i fod yn fi yn ddilys, gweithio'n galed a gweithio gydag angerdd.


I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, gwnaethom ofyn i’r raddedig Gladys – MA mewn Gweinyddu Busnes, rai cwestiynau am yr hyn mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ei olygu iddi hi, beth sy’n ei hysbrydoli a mwy.

Beth wnaethoch chi ei astudio ym Mhrifysgol De Cymru, a phryd wnaethoch chi raddio?

Fe wnes i radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes drwy raglen UNICAF. Y bwriad oedd graddio llynedd ond oherwydd Covid bu’n rhaid i mi aros i raddio tan fis Mawrth 2022 ac roedd hi’n werth aros.

Beth ydych chi'n ei wneud nawr, a beth yw eich gobeithion ar gyfer eich gyrfa?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i Dermalogica UK, brand gofal croen proffesiynol rhyngwladol. Rwy’n gweithio fel Datblygwr Cynnwys Addysgol, yn datblygu a churadu cynnwys a ddefnyddir i addysgu therapyddion gofal croen proffesiynol yn y DU gyda’r nod o ddyrchafu eu harbenigedd. Rwy’n angerddol dros addysg o fewn y diwydiant gofal croen a iechyd da. Gyda thros 9 mlynedd o brofiad mewn Addysg a Gweithrediadau Sba a Harddwch rwy’n anelu at aeddfedu i fod yn arweinydd cadarn yn y diwydiant yn fyd-eang a chodi safonau’r proffesiwn drwy addysg. Fy nod a’m hymrwymiad gydol oes yw gadael etifeddiaeth barhaol yn fy niwydiant sydd yn aml yn cael ei ddiystyru a’i danseilio.

Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon, beth mae'n ei olygu i chi?

I mi mae dathlu mis hanes pobl ddu ynghylch cael fy ngweld a’m cydnabod y tu hwnt i liw fy nghroen. Fel menyw ddu efallai fy mod yn gyson yn cael fy hun fel lleiafrif serch hynny mae talent, egni, grym ac angerdd oddi mewn i mi sy’n haeddu cael eu gweld a’u cydnabod. Mae hefyd yn fodd i mi werthfawrogi’r rhai sydd wedi paratoi’r llwybr i ni fel pobl ddu ifanc nawr i gerdded trwy’r drysau ac i fannau yr oeddent hwy ond yn breuddwydio amdanynt. Rydym yn byw eu breuddwyd hwy ond mae gwaith angen ei wneud o hyd gennym i greu byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol pan na fydd ots beth yw lliw eich croen.

Sut gall graddedigion a theulu ehangach PDC ddathlu a chefnogi Mis Hanes Pobl Dduon?

Rhannu ac amlygu’r gwaith anhygoel mae alumni PDC yn ei wneud. Mae angen i’n cenhedlaeth iau weld eu hunain yn cael eu cynrychioli ymhob diwydiant, platfform a lle. Po fwyaf y byddwn yn dathlu dynion a menywod du sy’n llwyddo, y mwyaf y byddwn yn dathlu hanes pobl ddu a’r mwyaf y byddwn yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Pwy sy'n eich ysbrydoli?

Wow! Myrdd o fenywod du cadarn sydd wedi, ac yn parhau i wneud pethau anhygoel yn y byd yma, gyda fy mam ar y brig. Mae menywod fel Michelle Obama yn fy ysbrydoli gymaint i fod y fi ddilys, i weithio’n galed gydag angerdd wrth gofio bod yn dyner â fi fy hun wrth wneud hynny.