Rishika Fernando

Graddedig BSc (Anrh) Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau

Straeon Alumni
Rishika fixing part of a plane in the Aerospace Centre on Treforest campus

Roeddwn i'n teimlo, trwy gwblhau'r cwrs, y byddwn yn gosod fy hun mewn sefyllfa well o gymharu â pheirianwyr cynnal a chadw awyrennau Iau eraill.


Dywedwch ychydig wrthym amdanoch

Fy enw yw Rishika Fernando ac rwyf wedi graddio ar gwrs BSc (Anrh) Peirianneg Cynnal Awyrennau. Dechreuais fy nghwrs yn PDC Dubai yn 2019 gan mai yno oeddwn yn byw gyda fy nheulu. Wedi hynny, gan i ni gael y cyfle i drosglwyddo i’r campws yn y DU, penderfynais deithio i’r DU a pharhau â gweddill fy nghwrs yno. Gyda chymorth y tîm cyngor rhyngwladol i fyfyrwyr, llwyddais bontio o Dubai i gampws y DU yn hynod o ddiffwdan.  

Beth wnaeth eich ysbrydoli i astudio Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau?

Ers fy mhlentyndod, rwyf wastad wedi cael gyrfa mewn Hedfanaeth. Felly pan oeddwn yn edrych ar yrfaoedd yn ymwneud â hedfanaeth deuthum ar draws Peirianneg Cynnal Awyrennau. Pan oeddwn yn gwneud ymchwil am brifysgolion oedd yn cynnig cyrsiau’n ymwneud â chynnal awyrennau, deuthum ar draws PDC. 

Yn wahanol i brifysgolion eraill, mae PDC yn cynnig llwybr cyflym i ennill y drwydded beirianneg mewn dwy flynedd ac roedd modd cwblhau’r cwrs mewn tair. Roedd hyn yn golygu y gallwn sefyll arholiadau trwydded EASA, CAA, a GCAA ar yr un pryd â gradd baglor. Dewisais wneud y cwrs hwn am ei fod yn bendant yn cynnig popeth oeddwn am ei gyflawni. Heblaw am hynny, roeddwn yn teimlo wrth gwblhau’r cwrs y byddwn yn gosod fy hun mewn gwell safle o gymharu â pheirianwyr cynnal awyrennau iau eraill a fyddai’n graddio o brifysgolion eraill. 

Oes gennych chi hoff atgof o'ch amser ym Mhrifysgol De Cymru?

Fy hoff atgof yw’r diwrnod cyntaf y cefais wneud gwaith ymarferol. Fel un gafodd weithio ar awyren am y tro cyntaf, roeddwn wedi ‘nghyfareddu, wedi cyffroi, ac yn ddiolchgar i ymgymryd â rhai tasgau ymarferol yno. 

Fy ymateb i gwrdd â’r darlithwyr am y tro cyntaf a chael y cyfle i ddefnyddio’r offer a’r cyfleusterau sydd ar gael yn PDC oedd: “Mae hyn yn ANHYGOEL ac MOR CŴL”. Cawsom hefyd ein dysgu gan bobl broffesiynol hynod brofiadol o’r diwydiant, a gwnaethant sicrhau ein bod yn cael profiad tebyg i’r diwydiant ym mhob dosbarth ymarferol  a oedd yn gyfle amhrisiadwy.