Ffeindiwch gwrs

Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd Astudiaethau Bwdhaidd - MA

Byddwch yn archwilio traddodiadau Bwdhaidd dan arweiniad arbenigwyr ac yng nghwmni cyd-fyfyrwyr o bedwar ban byd, ar-lein, yn rhan amser, mewn ffordd sy’n addas i chi.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd Hanes - BA (Anrh)

Nid ymwneud â'r gorffennol yn unig mae Hanes yn PDC; mae'n ymwneud â deall sut mae’r gorffennol wedi llunio’r byd sy’n gyfarwydd i ni heddiw a'r safbwyntiau a goleddwn erbyn hyn. Drwy archwilio pwy sy'n creu hanes a chydnabod cyfraniadau amrywiol, byddwch yn dod yn ddinesydd byd-eang yn barod i adael eich ôl ar y byd.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd Hanes gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BA (Anrh)

Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi ffynonellau, meddwl yn feirniadol am y gorffennol, a chyfleu eich syniadau'n glir. Gyda dysgu gweithredol, tasgau myfyriol ac asesiadau cymhwysol, byddwch yn ennill sylfaen academaidd gref a sgiliau trosglwyddadwy i symud ymlaen i'r radd Hanes a thu hwnt. Mae'r cwrs hwn yn cefnogi eich twf, chwilfrydedd a pharodrwydd ar gyfer lefel uwch o astudio.

  • Israddedig
  • Caerdydd