MA

Ffilm (Sinematograffeg)

Mae'r MA Ffilm yn gyfle newydd i astudio ffilm ar lefel Ôl-raddedig yng Nghaerdydd. Mae'r cwrs yn darparu sylfaen gyffredinol gref yn anghenion diwydiant Ffilm a Theledu cyfoes Prydain gyda chyfleoedd i ddatblygu a mireinio sgiliau allweddol drwy sawl llwybr sy'n arwain yn uniongyrchol at wahanol gyfleoedd gyrfaol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Drwy gyfuno'r gwahanol ddisgyblaethau hyn, mae myfyrwyr yn ennill cyfle i gydweithio â'i gilydd, gyda myfyrwyr eraill o Brifysgol De Cymru a gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant i ddatblygu eu sgiliau i lefel uwch.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r llwybr MA Ffilm (Sinematograffeg) wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno cyfuno addysg ehangach yn y diwydiant ffilm a theledu a sgiliau cyffredinol creu ffilmiau gydag adeiladu eu portffolio a'u sgiliau Sinematograffeg.

WEDI’I DDYLUNIO AR GYFER

BLANK

BLANK

BLANK

Uchafbwyntiau’r Cwrs

BLANK

BLANK

Trosolwg o'r Modiwl

Byddwch yn astudio nifer o fodiwlau penodol ac yna'n cael cyfle i arbenigo yn eich maes diddordeb.

Diwydiant
Bydd cyfres o ddarlithoedd gan ymarferwyr y diwydiant, gweithdai a phrofiad(au) diwydiant gyda chwmni cynhyrchu o Gymru yn rhoi trosolwg i chi o'r sector cynhyrchu ffilm a theledu presennol a dyma fydd eich camau cyntaf tuag at adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.

Ymarfer Crefft Arbenigol / Ymarfer Crefft Arbenigol Uwch
Bydd y modiwlau hyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau i safon y diwydiant mewn un maes arbenigedd allweddol.

Ffilm: Theori a Chwarae
Modiwl sy'n integreiddio theori ffilm gyda gweithdai ymarferol, lle cewch gyfle i roi theori ar waith, i chwarae gyda'r ffurfiau. Yn cynnwys darlithoedd yn archwilio iaith a theori ffilm, ynghyd â gweithdai - yn aml gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant - lle rydych yn cydweithio â myfyrwyr y llwybrau eraill ar gyfres o ymarferion ffilmiau byr.

 

Ymarfer Cydweithredol |
Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i chi gydweithio â chyd-fyfyrwyr o bob rhan o’r cwrs a’r Gyfadran Diwydiannau Creadigol ar ffilm fer.

Prosiect Cynhyrchu Mawr
Byddwch yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ymarferwyr, staff a chyd-fyfyrwyr o bob rhan o Brifysgol De Cymru ar brosiect ffilm sylweddol, gan ddefnyddio’r sgil crefft o’ch dewis.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.

Cost: I fyny at £2000

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Bydd myfyrwyr ar y cwrs MA Ffilm yn cael eu haddysgu drwy gymysgedd o weithdai,
seminarau, darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal â darlithoedd gwadd a dosbarthiadau
meistr gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant.
Gwneir yr asesu drwy gyfres o asesiadau ymarferol yn seiliedig ar friffiau byw a
phrosiectau cynhyrchu (70%), ynghyd â myfyrdodau ysgrifenedig a dadansoddiad
beirniadol o waith myfyrwyr (30%).

Staff addysgu

Phil Cowan

Lleoliadau

Mae'r cwrs yn cynnwys modiwl profiad gwaith unigryw, manwl gyda chyflogwr mawr yn y diwydiant ffilm a theledu, ynghyd â nifer o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith â thâl a di-dâl a chysgodi gydag ystod eang o gwmnïau diwydiannau sgrin.

Cyfleusterau

Gall myfyrwyr ar Gampws Caerdydd PDC fanteisio ar offer, meddalwedd a stiwdios a chyfleusterau cynhyrchu o safon y diwydiant.
Mae sinema ar y safle sydd ar gael i fyfyrwyr arddangos eu gwaith, yn ogystal â lle i gynnal darlithoedd gwadd a dosbarthiadau meistr.

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs yn cynnwys modiwl profiad gwaith unigryw a dwys gyda chyflogwr mawr
yn y diwydiant ffilm a theledu, yn ogystal â nifer o gyfleoedd ar gyfer cysgodi a
phrofiad gwaith gyda thâl ac yn ddi-dâl a gydag ystod eang o gwmnïau diwydiannau
sgrin.

Cymorth gyrfaoedd

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.